<p>Gwella Gwasanaethau Diabetes</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:22, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd busnes. Mae ffigurau gan Diabetes UK Cymru yn datgelu bod nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru yn uwch nag erioed. Mae eu cyfarwyddwr wedi tynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth o ran ymwybyddiaeth pobl o ddifrifoldeb diabetes. O ystyried mai Cymru sydd â’r gyfradd waethaf o ordewdra ymysg plant, a yw’r Gweinidog yn cytuno bod angen i ni atal plant rhag mynd dros bwysau er mwyn gostwng lefelau diabetes? Pa gynlluniau sydd ganddo i weithio gydag ysgolion a rhieni i wella’r wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni’r nod hwn yng Nghymru?