2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2016.
2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, sydd â diabetes? OAQ(5)0002(HWS)
Diolch am y cwestiwn yn ystod Wythnos Diabetes. Rydym yn buddsoddi bron i £100 miliwn bob blwyddyn mewn gofal diabetes penodol a byddwn yn parhau i fuddsoddi £1 filiwn y flwyddyn ar gyfer gwella drwy’r grŵp gweithredu diabetes a arweinir gan y GIG. Rydym yn disgwyl gweld canlyniadau gwell i gleifion drwy gyrraedd safonau gwasanaeth cenedlaethol yn gyson, cynorthwyo cleifion i hunanreoli drwy raglenni addysg a helpu i atal pobl sy’n wynebu risg uchel rhag datblygu diabetes.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd busnes. Mae ffigurau gan Diabetes UK Cymru yn datgelu bod nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru yn uwch nag erioed. Mae eu cyfarwyddwr wedi tynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth o ran ymwybyddiaeth pobl o ddifrifoldeb diabetes. O ystyried mai Cymru sydd â’r gyfradd waethaf o ordewdra ymysg plant, a yw’r Gweinidog yn cytuno bod angen i ni atal plant rhag mynd dros bwysau er mwyn gostwng lefelau diabetes? Pa gynlluniau sydd ganddo i weithio gydag ysgolion a rhieni i wella’r wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni’r nod hwn yng Nghymru?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn dilynol. Wrth gwrs, mae gennym ddau fath o ddiabetes: math 1, nad yw’n gysylltiedig o gwbl â ffactorau’n ymwneud â ffordd o fyw unigolyn, a math 2, sydd, a bod yn onest, yn gysylltiedig â ffactorau sy’n ymwneud â ffordd o fyw unigolyn. Felly, mae angen i ni ymdrin â’r ddau fater hwnnw. Mae nifer o blant o wahanol oedrannau yn deall bod ganddynt ddiabetes math 1 ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod y gofal a’r cymorth y maent yn ei gael yn briodol, a hefyd, o ran diabetes math 2, mae’n ymwneud llawer mwy ag atal. Felly, gadewch i mi fynd i’r afael â’r ddau bwynt hwnnw. Gyda math 2, mae’n ymestyn ar draws ystod o fesurau iechyd cyhoeddus; nid cyfrifoldeb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn unig mohono na chyfrifoldeb chwaraeon hyd yn oed—mae gan amrywiaeth eang o bobl eraill ran i’w chwarae yn hyn, er enghraifft, y gwaith rydym yn ei wneud ar ysgolion iach a’r ffordd y mae ysgolion yn ymgysylltu. Ym mhob ysgol rwy’n ymweld â hwy yn fy etholaeth fy hun a ledled y wlad, fe welwch neges glir iawn ar fwyta ac yfed yn iach ac ymwybyddiaeth o siwgr yn arbennig. Felly, mae amryw o’r pethau rydym yn eu gwneud i annog pobl i wneud dewisiadau gwahanol yn bwysig. Mae’n rhaid i ni weithio gyda rhieni yn ogystal, oherwydd beth bynnag y mae plant yn ei gael yn yr ysgol, gwyddom fod dylanwad llawer mwy y tu allan i giatiau’r ysgol hefyd.
I ailadrodd canlyniadau difrifol diabetes, ddoe disgrifiodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro fenyw yn ei 50au a oedd wedi colli ei golwg mewn un llygad; roedd ganddi ddiabetes math 1. Ni lwyddodd i reoli ei chyflwr yn dda yn ei 20au a 30au ac erbyn hyn mae hi wedi colli ei golwg yn ei llygad. Mae hi’n annog pobl i fanteisio ar y rhaglenni addysg i gleifion sydd ar gael. Mae yna amrywiaeth eang o bobl yn wynebu risg, ac ystod eang o negeseuon a chamau sydd angen i ni i gyd eu rhoi ar waith. Mae’n fater cymhleth, ond yn un na allwn ei osgoi.
Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, fe glywoch chi a minnau gan bobl sydd â diabetes am y gwelliannau sydd wedi digwydd yn y gwasanaethau ledled Cymru. Mae hynny i’w ganmol ac i’w ddathlu—y gwaith a wnaeth eich rhagflaenydd, Mark Drakeford, ar weithredu’r cynlluniau diabetes. O ganlyniad, rydym yn awr yn destun eiddigedd hyrwyddwyr negeseuon diabetes yn Lloegr, am fod gan bob bwrdd iechyd arweinydd ar gyfer diabetes, ac rwy’n siŵr fod hwnnw’n un o’r rhesymau pam y gwelsom gymaint o welliant yn y ffordd rydym yn gofalu am bobl sydd â diabetes. Ond fe fyddwch hefyd yn cofio i ni glywed gan fam i blentyn a fu farw o ddiabetes math 1 na wnaed diagnosis ohono, ac roeddwn yn meddwl tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda gwasanaethau eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r ffactorau risg posibl a’r arwyddion a allai ddynodi fod rhywun â diabetes math 1.
Diolch am y cwestiwn. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi yn y digwyddiad ddoe i dynnu sylw at Wythnos Diabetes a’r gwaith y maent yn ei wneud yma yng Nghymru i wella’r sefyllfa. Mae’r pwynt am ddiabetes na wnaed diagnosis ohono yn berthnasol i fath 1 a math 2 a’r ffactorau risg sy’n codi. Mae’n achos arbennig o anodd, a byddaf yn hapus i gyfarfod â chi a’r grŵp trawsbleidiol eto. Rwy’n deall y bydd y fam yn mynychu’r grŵp trawsbleidiol nesaf i egluro ei phrofiadau ei hun. Mae yna neges yma am ymwybyddiaeth rhwng iechyd ac addysg, am ffactorau y gellid bod wedi sylwi arnynt yn gynharach. Rwy’n falch iawn o weld bod y fam yn awyddus i sicrhau bod pobl eraill yn dysgu’r gwersi ac yn deall ac yn adnabod mwy o’r arwyddion; mae yna neges gadarnhaol yno. Ond rwy’n wirioneddol falch o’ch clywed yn cydnabod y gwelliannau rydym wedi’u gwneud mewn gofal cleifion yma yng Nghymru. Yn benodol, roedd Diabetes UK yn glir iawn ynglŷn â’r ffaith fod yna fomentwm go iawn yma yng Nghymru o ran gwella gofal, a’u bod am weld hynny mewn rhannau eraill o’r DU. Felly, mae rhywfaint o newyddion da i ni yma yng Nghymru, ond i’r un graddau, ceir cydnabyddiaeth fod llawer mwy i’w wneud.