Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 15 Mehefin 2016.
Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, fe glywoch chi a minnau gan bobl sydd â diabetes am y gwelliannau sydd wedi digwydd yn y gwasanaethau ledled Cymru. Mae hynny i’w ganmol ac i’w ddathlu—y gwaith a wnaeth eich rhagflaenydd, Mark Drakeford, ar weithredu’r cynlluniau diabetes. O ganlyniad, rydym yn awr yn destun eiddigedd hyrwyddwyr negeseuon diabetes yn Lloegr, am fod gan bob bwrdd iechyd arweinydd ar gyfer diabetes, ac rwy’n siŵr fod hwnnw’n un o’r rhesymau pam y gwelsom gymaint o welliant yn y ffordd rydym yn gofalu am bobl sydd â diabetes. Ond fe fyddwch hefyd yn cofio i ni glywed gan fam i blentyn a fu farw o ddiabetes math 1 na wnaed diagnosis ohono, ac roeddwn yn meddwl tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda gwasanaethau eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r ffactorau risg posibl a’r arwyddion a allai ddynodi fod rhywun â diabetes math 1.