Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 15 Mehefin 2016.
Ond mae yna gamau arloesol y gellid eu cymryd wrth gwrs. Wythnos diwethaf, mi wnaeth sefydliad Cancer Research gyhoeddi adroddiad ar y camau nesaf y maen nhw’n dymuno eu gweld yn cael eu cymryd ar gyfer strategaeth canser i Gymru. Maen nhw’n gofyn am gyflwyno targed pendant 28 diwrnod fel ein bod ni’n gallu gwella cyfraddau goroesi a, drwy hynny, maen nhw’n ychwanegu at y corws o adroddiadau awdurdodol eraill sy’n cefnogi ein polisi ni, fel Plaid Cymru, am gyflwyno targed diagnosis 28 diwrnod.
Cyn yr etholiad, mi wnaeth eich Llywodraeth chi wrthod y targed yna, er bod prif oncolegwyr Prydain i gyd, mwy neu lai, yn galw amdano. Rŵan, er mwyn cyrraedd y fath darged, mi fyddai angen gwell amseroedd aros ar gyfer llawer o brofion, gan gynnwys rhoi gwell mynediad uniongyrchol i feddygon teulu, i’r system brofi ac i arbenigedd mewn profi. A wnewch chi, felly, edrych eto ar bolisi Plaid Cymru o sefydlu tair canolfan ddiagnostig, amlddisgyblaeth o’r math sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Denmarc, fel rhan o strategaeth i leihau amseroedd am y profion diagnostig, cwbl allweddol yma?