<p>Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:44, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae’n gwbl hanfodol fod gwasanaethau iechyd brys priodol wedi’u lleoli yn Sir Benfro yn y dyfodol mewn gwirionedd. Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi cael fy ailethol gyda mandad cryf ym Mhreseli Sir Benfro drwy sefyll dros ailgyflwyno gwasanaethau pediatrig amser llawn a’r uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg. O ystyried y gefnogaeth gyhoeddus glir yn fy etholaeth i ailsefydlu’r gwasanaethau hyn, a ydych yn awr yn barod i wrando ar bobl Sir Benfro drwy ystyried ailsefydlu’r gwasanaethau penodol hyn?