2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2016.
4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0004(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau iechyd tosturiol o safon uchel yn cael eu darparu i bobl Sir Benfro. Byddwn yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i gleifion ac wrth wneud hynny, cawn ein harwain gan y cyngor a’r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf.
Wrth gwrs, mae’n gwbl hanfodol fod gwasanaethau iechyd brys priodol wedi’u lleoli yn Sir Benfro yn y dyfodol mewn gwirionedd. Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi cael fy ailethol gyda mandad cryf ym Mhreseli Sir Benfro drwy sefyll dros ailgyflwyno gwasanaethau pediatrig amser llawn a’r uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg. O ystyried y gefnogaeth gyhoeddus glir yn fy etholaeth i ailsefydlu’r gwasanaethau hyn, a ydych yn awr yn barod i wrando ar bobl Sir Benfro drwy ystyried ailsefydlu’r gwasanaethau penodol hyn?
Diolch am y cwestiwn. Cawsom y ddadl hon cyn yr etholiad ac rwy’n siŵr y byddwn yn ei chael fwy nag unwaith ar ei ôl. Nid wyf yn gweld y ffaith fod yr Aelod wedi’i ailethol yn ei etholaeth yn refferendwm ar y mater penodol hwn. Mae yna heriau go iawn yn yr ardal hefyd rhwng galw clir iawn am gadw gwasanaethau’n lleol ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi adolygu’r newidiadau a wnaed i’r gwasanaethau, mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac maent wedi cadarnhau na pheryglwyd gofal neb, ni ddioddefodd neb unrhyw niwed clinigol o ganlyniad i’r newidiadau ac mewn gwirionedd, roedd wedi gwella’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i’ch etholwyr. Nawr, dyna’r cyngor a’r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw Weinidog o unrhyw blaid yn y sefyllfa hon, ar sail y dystiolaeth honno, yn penderfynu newid y gwasanaeth, gan y buasai gwneud hynny’n mynd yn groes i’r dystiolaeth honno ac yn fy marn i, yn gyfystyr â chytuno i ddarparu gwasanaeth salach i bobl Sir Benfro oherwydd y twrw cyhoeddus a gafwyd oherwydd eu bod eisiau i wasanaethau gael eu darparu’n lleol. Mae angen i ni gael cydbwysedd o ran deall y gwasanaethau sydd angen eu darparu mewn canolfannau arbenigol. Rydym angen llai o’r rheini ar draws y wlad er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i’n pobl ac ar yr un pryd, er mwyn deall pa wasanaethau y mae gwir angen i ni eu darparu’n lleol a chael mwy o’r gwasanaethau hynny mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol lle bo hynny’n bosibl. Rwy’n sylweddoli fy mod yn annhebygol o ddwyn perswâd ar yr Aelod i newid ei safbwynt yn y drafodaeth heddiw, ond fel y dywedais yn fy ymateb cyntaf, byddaf yn cael fy arwain gan y cyngor a’r dystiolaeth glinigol orau a diweddaraf, a phan fo hynny’n dweud wrthyf nad newid y gwasanaeth yn ôl i’r ffordd yr arferai fod yw’r peth iawn i’w wneud ar gyfer pobl Sir Benfro, ni fyddaf yn gwneud hynny gan nad wyf yn credu bod hynny’n beth cyfrifol i mi ei wneud.
Hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad ond rwyf hefyd yn awyddus i dalu teyrnged i’r Gweinidog blaenorol, a oedd â swydd anodd iawn ac fe gyflawnodd rywfaint o newid. Nid llongyfarchiadau ffug mohono, gallaf eich sicrhau. Fodd bynnag, os caf symud ymlaen yn gyflym, ddydd Gwener diwethaf ymwelais ag ysbyty Llwynhelyg a siaradais â staff a chleifion am y gwasanaethau newydd a’r modd y maent yn ymwreiddio. Rwy’n falch o adrodd, ar ôl gwneud hynny, fod y darlun yn eithriadol o gadarnhaol. Siaradais â menyw a oedd wedi newydd roi genedigaeth i’w chweched babi yn yr uned newydd ac roedd hi’n llawn canmoliaeth i’r bydwragedd, y staff a’r cyfleusterau a ddefnyddiodd. Ond roedd un mater yn codi, sef dyfodol y cerbyd ambiwlans penodedig 24/7, neu’r DAV, a gyflwynwyd ar gyfer trosglwyddiadau brys rhwng ysbytai Llwynhelyg a Glangwili fel rhan o’r broses o gyflwyno mesurau diogelwch fesul cam a gefnogai’r Gweinidog blaenorol. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi ymestyn y contract hwnnw gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, ond mae i fod i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ysgrifennydd y Cabinet, er bod y gwasanaeth yn cael llai o ddefnydd na’r hyn a ddisgwylid, efallai—ond mae’n cael ei rannu gyda gwasanaethau eraill—dywedodd y staff ei fod yn cael ei werthfawrogi a bod ei angen. Fy nghwestiwn, felly, yw hwn: a fyddech yn ymrwymo i drafod gyda bwrdd iechyd Hywel Dda yr opsiwn o roi’r gwasanaethau hanfodol hynny ar sail barhaol? Hefyd, Weinidog, rwyf wedi siarad â chi ynglŷn ag ymweld ag ysbytai Glangwili a Llwynhelyg, ac rydych wedi cytuno i hynny, ond hoffwn gael eich cytundeb wedi’i gofnodi. Diolch.
Diolch i chi am y ddau gwestiwn. Ydw, rwy’n hapus i drefnu amser cyfleus i ymweld â’r ddau ysbyty ac i gwrdd â staff yn yr unedau bydwreigiaeth. O ran eich pwynt penodol am y cerbyd ambiwlans penodedig, roedd hyn yn rhan bwysig o sicrhau hyder yn y gwasanaeth er mwyn gwneud yn siŵr fod modd trosglwyddo ar frys, lle bo angen, ar gyfer cludo menywod a’u babanod i Ysbyty Glangwili. Mewn sawl ffordd, rwy’n falch ei fod wedi cael ei ddefnyddio lai na’r disgwyl oherwydd mae hynny’n tanlinellu ac yn cadarnhau’r ffaith fod gofal diogel yn cael ei ddarparu yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Cafodd dros 200 o fabanod eu geni yn yr uned dan arweiniad bydwragedd yn Llwynhelyg yn y flwyddyn galendr ddiwethaf: menywod a’u babanod yn cael eu geni’n ddiogel gyda gofal o ansawdd uchel. Dyna ganmoliaeth go iawn i’r bydwragedd eu hunain. Roeddwn hefyd yn awyddus i ganmol y parafeddygon nad ydynt yn eistedd gyda’u traed i fyny yn cael paned o de pan nad ydynt yn cael eu defnyddio i drosglwyddo pobl i Glangwili. Mewn gwirionedd maent yn gwneud gwaith yn yr ysbyty mewn gwahanol dimau, gan ddefnyddio’u sgiliau mewn ffordd sydd o fudd i’r gwasanaeth cyfan. Felly, mae’n enghraifft wirioneddol dda o’r modd y gall integreiddio weithio yn y broses o gynllunio’r gwasanaeth. Byddaf yn bendant yn codi’r mater ac yn trafod gyda bwrdd iechyd Hywel Dda ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru er mwyn ceisio rhoi dyfodol y gwasanaeth hwnnw ar sail fwy cyson.
Nid ŷm ni wedi anghofio’r etholiad yr ŷm ni newydd fynd drwyddo. Rwy’n cofio’n glir iawn ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn siarad yn glir iawn, ac yn addo, pe byddai e’n cael ei ethol, y byddai’n dod i’r lle hwn ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau mamolaeth i ysbyty Llwynhelyg, ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau pediatreg i ysbyty Llwynhelyg. Felly, a oedd e yn edrych i gamarwain pobl yr etholaeth, a beth mae’r Gweinidog yn mynd i’w wneud nawr i sicrhau bod gwasanaethau pediatreg, yn arbennig, yn saff ac yn ddiogel yn Llwynhelyg er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau brys hefyd yn saff ac yn ddiogel?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. I ddeall yr hyn rydym yn ei wneud, rwy’n mynd yn ôl i ddweud bod yn rhaid i ni gael ei arwain gan y dystiolaeth a’r cyngor. I wneud i hyn weithio, mae’n werth edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Ysbyty’r Tywysog Philip—nid ar y model penodol yno, ond ar y ffaith fod Ysbyty’r Tywysog Philip wedi peidio â bod yn broblem gan fod clinigwyr yno wedi trafod yr hyn oedd yn bosibl. Rhoesant y gorau i fychanu’r hyn roeddent yn ei wneud. Rhoesant y gorau i ddadlau yn y dafarn a dweud, ‘Beth allwn ni ei wneud? Beth allwn ni ei wneud yn ddiogel? Beth rydym ni am ei wneud, a sut mae cyrraedd yno?’ Cawsant drafodaeth ymysg ei gilydd ynglŷn ag arwain gofal ac ynglŷn ag arwain newid o fewn yr ysbyty hwnnw fel model, nawr, nad oes fawr iawn o sŵn amdano. At ei gilydd, mae pobl yn cefnogi’r hyn sydd wedi digwydd yno.
Rwy’n falch iawn fod yr ymgysylltiad hwnnw â’r gymuned glinigol yn Llwynhelyg yn dal i ddigwydd. Er enghraifft, ar ddechrau mis Mai, cafwyd diwrnod gweithdy yn cynnwys amryw o glinigwyr—gofal sylfaenol yn ogystal â gofal eilaidd a’r cyngor iechyd cymuned—i edrych ar ble y maent a ble y maent am fod hefyd gydag amrywiaeth o’r gwasanaethau hyn. Mae’n rhaid iddynt gael y drafodaeth adeiladol honno oherwydd os na allant gytuno ymysg ei gilydd beth sy’n briodol a beth sy’n angenrheidiol ar gyfer y rhan benodol honno o’r byd a sut y gallant fynd ati i’w ddarparu, rydym yn annhebygol o allu eu cynorthwyo neu wneud dewisiadau y byddai pobl Sir Benfro am eu gweld. Felly, mae deall yr hyn y maent ei eisiau, cael trafodaeth adeiladol a bod yn barod i arwain y newid hwnnw—neu gefnogi dewisiadau anodd os oes rhaid eu gwneud—yn rhan o’r hyn rwy’n meddwl y dylem ei ddisgwyl, ac rwy’n wirioneddol falch o weld bod hyn bellach yn digwydd ar sail fwy cyson yn Llwynhelyg. Mae’n beth da i’r clinigwyr a’r cyhoedd a wasanaethant.