<p>Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:50, 15 Mehefin 2016

Nid ŷm ni wedi anghofio’r etholiad yr ŷm ni newydd fynd drwyddo. Rwy’n cofio’n glir iawn ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn siarad yn glir iawn, ac yn addo, pe byddai e’n cael ei ethol, y byddai’n dod i’r lle hwn ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau mamolaeth i ysbyty Llwynhelyg, ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau pediatreg i ysbyty Llwynhelyg. Felly, a oedd e yn edrych i gamarwain pobl yr etholaeth, a beth mae’r Gweinidog yn mynd i’w wneud nawr i sicrhau bod gwasanaethau pediatreg, yn arbennig, yn saff ac yn ddiogel yn Llwynhelyg er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau brys hefyd yn saff ac yn ddiogel?