Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 15 Mehefin 2016.
Fel yn nodoch, Ysgrifennydd Iechyd, nid yw’r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi gweithio ac mae’n cael ei diddymu yr wythnos hon. Fodd bynnag, rwyf wrth fy modd fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gronfa triniaethau newydd, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i adolygiad pellach o’r system ceisiadau cyllido cleifion unigol hefyd. Fel y gwyddoch, ers amser maith rwyf wedi cefnogi’r angen i newid i banel cenedlaethol a fyddai’n sicrhau cysondeb a thegwch wrth wneud penderfyniadau, a hoffwn weld diwedd ar y prawf eithriadoldeb hefyd, gan nad wyf yn credu bod llawer o glinigwyr yng Nghymru yn ei gefnogi. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal yn gyflym, ond hefyd y byddwch yn sicrhau bod safbwyntiau clinigwyr a chleifion yn cael eu hystyried?