2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2016.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cronfa cyffuriau canser? OAQ(5)0013(HWS)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Ni fyddwn yn sefydlu cronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Bydd y gronfa cyffuriau canser yn Lloegr yn cael ei diddymu ddiwedd y mis hwn. Rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o sefydlu cronfa triniaethau newydd fel un o’n hymrwymiadau allweddol yn y 100 diwrnod cyntaf. Rwy’n disgwyl gallu dweud rhagor wrth yr Aelodau amdani. Bydd y gronfa’n cefnogi’r broses o fynd ati’n gyflym i gyflwyno triniaethau arloesol ac effeithiol sy’n costio llawer ar gyfer clefydau sy’n bygwth bywyd.
Weinidog, byddai ein hargymhellion ein hunain ar gyfer cronfa triniaethau canser Cymru nid yn unig wedi gwella mynediad at feddyginiaethau newydd, modern, ond byddai hefyd wedi gwneud triniaethau canser yn fwy hygyrch i gleifion drwy sefydlu uned trin canser symudol. Mewn rhannau gwledig o Gymru, megis fy etholaeth fy hun yn Sir Drefaldwyn, byddai’n wasanaeth amhrisiadwy wrth gwrs. Fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i sefydlu gwasanaeth trin canser symudol?
Wel wrth gwrs, rydym eisoes yn ymgymryd ag ystod o wasanaethau trin canser symudol, ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn o’n huchelgais i gyflawni mwy o ofal yn y gymuned—y newid hwnnw o ofal eilaidd i ofal sylfaenol. Mae’n rhan bwysig o’r hyn rydym am ei wneud. Byddai hynny’n sicr yn wir mewn gwasanaethau canser yn ogystal. Rydym wedi cael rhaglenni sefydledig, gan weithio gyda Chymorth Canser Macmillan, er enghraifft, ar ddeall gwasanaethau oncoleg gofal sylfaenol. Rydym yn gweithio gyda’n clinigwyr i wella’r hyn a wnânt ac i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn y lleoliad mwyaf priodol. Nid wyf yn ymddiheuro am beidio â derbyn neu ddilyn argymhellion y Torïaid ar gronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Nid ydym yn credu mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Nid yn unig hynny: dywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin nad oedd unrhyw dystiolaeth fod y gronfa yn Lloegr wedi arwain at ganlyniadau gwell, ac mae Syr Bruce Keogh, gŵr y mae’r Torïaid yn aml yn hoff o’i ddyfynnu yn y Siambr hon, wedi disgrifio’r gronfa cyffuriau canser fel cynllun nad yw’n gwneud defnydd doeth a chynaliadwy o arian. Roedd yn cydnabod bod mwy o’r gyllideb yno yn cael ei gwario ar feddyginiaeth lai effeithiol. Mae hwnnw’n fodel gwael i ni ei ddilyn, ac rwy’n falch o’r hyn rydym eisoes yn ei wneud a’r hyn rydym wedi ymrwymo i’w wneud gyda’r gronfa triniaethau newydd.
Fel yn nodoch, Ysgrifennydd Iechyd, nid yw’r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi gweithio ac mae’n cael ei diddymu yr wythnos hon. Fodd bynnag, rwyf wrth fy modd fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gronfa triniaethau newydd, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i adolygiad pellach o’r system ceisiadau cyllido cleifion unigol hefyd. Fel y gwyddoch, ers amser maith rwyf wedi cefnogi’r angen i newid i banel cenedlaethol a fyddai’n sicrhau cysondeb a thegwch wrth wneud penderfyniadau, a hoffwn weld diwedd ar y prawf eithriadoldeb hefyd, gan nad wyf yn credu bod llawer o glinigwyr yng Nghymru yn ei gefnogi. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal yn gyflym, ond hefyd y byddwch yn sicrhau bod safbwyntiau clinigwyr a chleifion yn cael eu hystyried?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac mae hi’n iawn; mae hi wedi dangos diddordeb cyson iawn yn y maes penodol hwn. Yn y trafodaethau a gawsom cyn ffurfio’r Llywodraeth hon, yn y compact gyda Phlaid Cymru, fe fyddwch yn ymwybodol fod adolygiad o’r system ceisiadau cyllido cleifion unigol yn un o’r pethau y cafwyd cytundeb yn ei gylch rhwng ein pleidiau. Rwy’n disgwyl gallu cyflwyno rhai cynigion, ar ôl cael trafodaeth—cyn y toriad, gobeithio—ynglŷn â sut beth fydd yr adolygiad o’r system ceisiadau cyllido cleifion unigol a gosod amserlen ymhen rhai misoedd i hynny allu digwydd. Mae’n bwysig i mi fod yr adolygiad yn ennyn cefnogaeth glinigol briodol gan glinigwyr gydag arbenigedd yn y maes a bod gan gleifion lais priodol yn rhan o’r broses o gasglu tystiolaeth. Felly, gallaf gadarnhau hefyd, mewn unrhyw adolygiad yn fy marn i, er mwyn sicrhau bod yr adolygiad hwnnw’n wirioneddol ystyrlon, rhaid iddo ystyried eto y pwyntiau ynglŷn ag a ddylid cael panel cenedlaethol ai peidio—byddwch yn deall bod yr adolygiad blaenorol wedi penderfynu yn erbyn cael panel cenedlaethol, am resymau ymarferol lawn cymaint ag unrhyw beth arall—ond hefyd, i edrych eto ai’r meini prawf eithriadoldeb yw’r ffordd iawn i fwrw ymlaen. Felly, rwy’n fodlon cadarnhau fy mod yn disgwyl i’r ystyriaethau hynny fod yn rhan o’r adolygiad ac y byddwn yn gallu adrodd yn ôl y brydlon i’r lle hwn, a gwneud unrhyw newidiadau wedyn, os mai dyna y mae’r adolygiad ei hun yn ei argymell.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych wedi’i ddatgan yn aml, a’i ailadrodd y prynhawn yma, mae’r angen am gronfa triniaethau yn ymestyn y tu hwnt i fater cyffuriau canser a dylai ymgorffori ystod eang o driniaethau, gan gynnwys ffurfiau newydd ar radiotherapi, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi hyrwyddo hynny yn y Cynulliad diwethaf—radiotherapi stereotactig CyberKnife ar y corff, a therapi pelydr proton, ac mae digwyddiad gwybodaeth yn cael ei noddi gan Bethan Jenkins ar y mater hwn yfory mewn gwirionedd. Ond maent yn dibynnu ar offer a gweithlu wedi’i hyfforddi. Felly, pa strategaethau buddsoddi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod rhagor o driniaethau o’r fath ar gael ledled Cymru, a pha anghenion gweithlu a nodwyd ar gyfer darparu’r rhain?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Un o’r pwyntiau a wnaf yw bod gennym hanes da o ddatblygiadau ym maes gwyddorau bywyd a’r diwydiant gwyddorau bywyd yma mewn gwirionedd, ac mae’r datblygiadau pelydr proton a allai ddigwydd yn ne-ddwyrain Cymru yn cael eu harwain gan y sector preifat, a gallai hynny arwain at wella mynediad yn y GIG yma yng Nghymru a gwella costau hefyd o bosibl. Gallem weld pobl yn dod i mewn o rannau eraill o Loegr i ddefnyddio gwasanaeth yno. Felly, bydd y comisiynu’n bwysig, ac edrychaf ymlaen at gael trafodaethau adeiladol ar y diwydiant gwyddorau bywyd gyda fy nghyd-Aelod Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.
O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â chynllunio’r gweithlu, wrth gwrs mae yna broblem yma ynghylch sicrhau bod gennym y gweithlu cywir, sy’n meddu ar y sgiliau cywir i ymgymryd â’r gofal iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac rwy’n falch iawn o atgoffa’r Aelodau o’r penderfyniad a wnaed ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf gan fy rhagflaenydd, ynglŷn â hyfforddiant meddygol. Byddwn yn hyfforddi mwy o nyrsys nag erioed o’r blaen, a mwy o radiolegwyr nag erioed o’r blaen, felly rydym yn gweld lle mae angen cael mwy o bobl yn dod i mewn i’r gwasanaeth sydd â’r sgiliau cywir i ddarparu’r math o wasanaeth gofal iechyd modern sydd ei angen arnom. Mae angen meddygon, nyrsys, ac ystod gyfan o broffesiynau eraill i sicrhau y gallwn ddarparu’r math o wasanaeth y mae pob un ohonom am ei weld.