<p>Cronfa Cyffuriau Canser</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:56, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych wedi’i ddatgan yn aml, a’i ailadrodd y prynhawn yma, mae’r angen am gronfa triniaethau yn ymestyn y tu hwnt i fater cyffuriau canser a dylai ymgorffori ystod eang o driniaethau, gan gynnwys ffurfiau newydd ar radiotherapi, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi hyrwyddo hynny yn y Cynulliad diwethaf—radiotherapi stereotactig CyberKnife ar y corff, a therapi pelydr proton, ac mae digwyddiad gwybodaeth yn cael ei noddi gan Bethan Jenkins ar y mater hwn yfory mewn gwirionedd. Ond maent yn dibynnu ar offer a gweithlu wedi’i hyfforddi. Felly, pa strategaethau buddsoddi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod rhagor o driniaethau o’r fath ar gael ledled Cymru, a pha anghenion gweithlu a nodwyd ar gyfer darparu’r rhain?