Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 15 Mehefin 2016.
O, diar. Diolch. Ymddiheuriadau, Lywydd. Nid oes angen i ni fod yn yr UE i gydweithredu gyda phartneriaid Ewropeaidd. Rhaid i Gymru ym Mhrydain fod yn bartner sofran i Ewrop nid yn dalaith o’r UE fel rhan o gymuned fyd-eang sy’n edrych tuag allan. Os byddwn yn gadael, nid oes newid yn digwydd ar unwaith yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Byddai cymorth ffermio a chyllido strwythurol wedyn yn fater i Lywodraeth y DU mewn ymgynghoriad â’r gweinyddiaethau datganoledig. Oherwydd bod y DU yn un o gyfranwyr net mawr i’r UE, byddai mwy o arian ar gael.
Pan gynlluniodd Comisiwn yr UE i ddyrannu cronfeydd strwythurol ar gyfer y cyfnod 2014-2020, ceisiodd sicrhau toriadau o tua 27 y cant i Gymru. Ailddyrannodd Llywodraeth y DU ran o’r cyllid ar gyfer Lloegr er mwyn ailgydbwyso rhywfaint o’r diffyg hwnnw. Gyda Chymru allan o’r UE, gwleidyddion atebol i etholwyr Cymru fydd yn pennu cyllid yn y dyfodol.
Rhoddai’r DU gymhorthdal i’w ffermwyr cyn iddi ymuno â’r UE a byddai’n gwneud hynny ar ôl i ni bleidleisio dros adael, gyda Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am osod polisïau newydd i helpu ffermwyr yn lle rheoliadau fferm yr UE sydd wedi’u cynllunio’n wael. Eglurodd Gweinidog ffermio’r DU y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i roi o leiaf yr un faint o gymorth ag y maent yn ei gael yn awr i ffermwyr ac i’r amgylchedd. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog wedi dweud hynny’n glir.