Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, gwrandewais ar y cyfweliad a wnaeth y person hwnnw mewn gwirionedd, a phan gafodd ei herio yn ei gylch dywedodd na allai roi unrhyw sicrwydd. A ydych yn dweud y gallai roi sicrwydd neu a ydych yn cytuno ag ef na all roi sicrwydd, dim ond rhestr o ddymuniadau?