5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:25, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae hyn ond dangos i ba raddau y mae Llafur yn byw yn y gorffennol—onid yw—ein bod yn dadlau heddiw am yr hyn ddigwyddodd oddeutu 30 o flynyddoedd yn ôl yn hytrach na beth sy’n digwydd yn y byd heddiw. Ond yr hyn rwy’n ei nodi yw nad yw’r Llywodraeth Lafur dros y 30 mlynedd ddiwethaf, rwy’n meddwl, wedi gwneud unrhyw beth i ddiddymu unrhyw rai o’r mesurau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd yn yr 1980au. Felly, naw wfft i’r ddadl honno.

Ond i ddychwelyd at y pwynt roeddwn yn ei wneud am fynediad i’r farchnad sengl pe baem yn gadael, byddai’n rhaid i ni neidio dros dariff o 3 y cant ar gyfartaledd, sy’n nonsens. Mae hyn yn ymwneud yn llwyr ag adfer rheolaeth ar ein gwlad ein hunain a rhoi rheolaeth am bolisi cyhoeddus i bobl y gallwn eu hethol a chael gwared arnynt, nid biwrocratiaid anetholedig di-wyneb ym Mrwsel na allwn eu henwi hyd yn oed.