Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 15 Mehefin 2016.
Mae’n debyg fod gennym oll brofiadau sy’n ein helpu i lunio barn benodol ar gwestiwn ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Yn fy achos i, rwy’n pwyso ar 30 mlynedd o brofiad fel swyddog undeb llafur cyn cael fy ethol i’r Cynulliad hwn. Gwn o brofiad uniongyrchol fod gweithwyr yng Nghymru a’u teuluoedd yn well eu byd oherwydd bod yr UE yn darparu ar gyfer ystod sylfaenol o hawliau gweithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys—ac nid yw hon yn rhestr lawn; nid yw’n rhestr gyflawn—rheoliadau trosglwyddo ymgymeriadau; hawliau lleiafswm gwyliau; cyfreithiau gwrth-wahaniaethu; hawliau mamolaeth a thadolaeth; terfyn uchaf ar oriau gwaith; seibiannau gorffwys gwarantedig; rheoliadau iechyd a diogelwch a thriniaeth gyfartal i staff dros dro, staff asiantaeth a staff rhan-amser, gan gynnwys mynediad at bensiynau, y bu’n rhaid i ni ymladd drostynt, gyda llaw, drwy’r llysoedd Ewropeaidd. Mae llawer o’r rhai sydd eisiau i Brydain adael Ewrop yn gweld y safonau gofynnol hyn fel biwrocratiaeth neu gostau i fusnesau. Pe gallai’r DU gael gwared ar y safonau gofynnol hyn, dywedir wrthym y byddai pethau’n gwella’n rhyfeddol rywsut i weithwyr.
Wel, rwy’n cofio llawer o’r un lleisiau yn gwrthwynebu’r isafswm cyflog cenedlaethol a phan ofynnwyd iddynt am ddeddfwriaeth gwahaniaethu, dywedasant y byddent yn cael gwared ar y rhan fwyaf ohoni. Felly, nid wyf fi’n mynd i gymryd unrhyw argymhelliad ganddynt ynghylch hawliau gweithwyr yn Ewrop. Fy neges i weithwyr ar draws Cymru yw hon: y mater o bwys yn ein heconomi yw ymladd yr amodau sy’n caniatáu i weithwyr barhau i gael eu hecsbloetio, nid cael gwared ar yr hawliau y mae’r gweithwyr hynny’n eu mwynhau ar hyn o bryd. Y peth olaf sydd ei angen ar weithwyr yng Nghymru yw Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn cael cyfle i ddechrau ar ymosodiad arall ar hawliau cyflogaeth a enillwyd drwy waith caled. O gael eu gadael i wneud fel y mynnant, yr hyn y mae Torïaid yn ei gyflwyno yw deddfau llym fel y Ddeddf Undebau Llafur yn ddiweddar. Beth arall fyddai’n dilyn pe baem yn pleidleisio dros adael yr undeb ar 23 Mehefin?
Lywydd, hoffwn droi yn awr at fudd economaidd ein haelodaeth o’r UE yn fy etholaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni. Ym Merthyr Tudful ei hun, mae prosiectau a ariennir gan yr UE wedi helpu dros 4,000 o bobl i gael gwaith, gyda thros 2,000 arall yn elwa ar brentisiaethau a ariennir gan yr UE. Mae’r UE wedi cyfrannu at nifer o brosiectau sydd wedi bod o fudd i’r economi leol, gan gynnwys adfywio canol y dref, gan greu sgwâr Penderyn, ailddatblygu’r Redhouse ac ardal adfywio Taf Bargoed. Mae gennym Barc Beicio Cymru, y llwybr cerdded ar lan yr afon yn Rhymni, amgueddfa’r Tŷ Weindio—pob un yn atyniad gwych i’w fwynhau, ac wedi’i ariannu’n rhannol gan arian Ewropeaidd.
O ran trafnidiaeth, rydym yn croesawu’r buddsoddiad parhaus yn ffordd Blaenau’r Cymoedd, uwchraddio gorsaf Rhymni a’r buddsoddiad yn y rheilffordd o Ferthyr i Gaerdydd, sy’n darparu sail i waith pellach ar gyflawni’r metro. Ac wrth gwrs, yng nghyd-destun presennol y cyffro ynglŷn â thîm pêl-droed Cymru, byddai’n esgeulus peidio â sôn am y gwaith o ailddatblygu Parc Penydarren Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful.
I mi, mae yna gwestiwn sylfaenol wrth wraidd y ddadl hon ar yr UE: a ydych chi wir yn teimlo y byddai Llywodraeth Dorïaidd yn darparu’r lefel o gefnogaeth a welwn ar hyn o bryd ar gyfer cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, ac y byddwn yn mwynhau’r un hawliau gweithwyr ar draws y DU pe na baem yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd? Lywydd, fy nghasgliad i yw na fyddem.