Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Steffan Lewis ar araith hynod o glir? Rwy’n meddwl y bydd unrhyw un sy’n dyfynnu Robert Peel yn dod o hyd i rywfaint o gefnogaeth ar y meinciau hyn. Efallai fod yna gydymdeimlad â’r Torïaid yn llechu’n ddwfn yn eich enaid gwleidyddol. Dim ond awgrymu hynny rwyf fi, gyda llaw; rwy’n gobeithio nad yw’n lleihau’r awdurdod a fydd gennych yn awr, rwy’n siŵr, i siarad yn eich grŵp. Roedd yn gyfraniad ardderchog.
Dychwelaf at fater plismona a gweinyddu cyfiawnder ar y diwedd, ond os caf ganolbwyntio ar gynnwys gwelliant y Ceidwadwyr, rwy’n meddwl mai’r lle cyntaf i ddechrau yw bod angen i ni weithio tuag at setliad cyfansoddiadol llawnach, a’r ffordd orau yw cymryd y Bil cyfredol fel y’i cyflwynwyd a’i wella. Mae eisoes yn welliant mawr ar y Bil drafft, ond dyma fydd y pedwerydd darn o gyfraith gyfansoddiadol a gawsom yng Nghymru mewn 18 neu 19 mlynedd, felly mae angen iddo fod yn setliad mor llawn ag y gallwn sicrhau consensws rhesymol ar ei gyfer ar hyn o bryd. Cefais fy nghalonogi fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd ac i’w gweld yn rhannu’r uchelgais aruchel hwn.
Nawr, mae’n wir fod yna rai meysydd lle y ceir gwahaniaeth sylweddol o hyd. Yn wir, mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i amlinellu rhai o’r materion y mae’n dal i feddwl bod angen mynd i’r afael â hwy, ac mae wedi cyfeirio at fater awdurdodaeth sengl. Mae’r Bil yn awgrymu ffordd o symud ymlaen ychydig yn y maes hwn, a chydnabod corff o gyfraith Gymreig. Rwy’n credu y gallwn ddadlau am y gwahaniaethau athronyddol yma, ond rwy’n meddwl ei fod yn cydnabod bod corff o gyfraith a deddfwrfa Gymreig yn mynd i gael eu cydnabod ar ryw bwynt mewn perthynas â’r eirfa gyfreithiol fel rhywbeth sy’n agosáu at awdurdodaeth sengl.
Mae nifer y cymalau cadw, ym marn Llywodraeth Cymru, yn dal yn rhy uchel ac rwy’n amau, wrth i ni graffu ar y Bil, mai dyna fydd y farn yn fwy cyffredinol yn y Cynulliad hwn. Gwnaed cynnydd rhannol ar gydsyniadau gweinidogol y DU. Unwaith eto, credaf y byddai unrhyw beth y gallwn ei wneud i gael rhaniad mwy cyflawn a rhesymegol mewn meysydd o’r fath yn hybu eglurder y setliad cyfansoddiadol. Ac ym marn y Prif Weinidog, mae angen cysylltu pwerau i godi trethi â chyllid teg. Fy hun, nid wyf yn argyhoeddedig fod angen eu cysylltu’n awtomatig, ond mae’n amlwg yn llywio’r ddadl a pha bwerau bynnag a gawn i godi trethi, mae’n amlwg fod mater fformiwla deg—fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion, yn y bôn—ar gyfer dosbarthu arian a gesglir yn ganolog o fewn gwladwriaeth y DU yn eithriadol o bwysig. Mae gan bob undeb gyllidol gref hyn; mae’n rhan hanfodol o ffurf effeithiol ar ddatganoli cyllidol.
Felly, credaf fod angen i ni weithio gyda’n gilydd i wella’r Bil wrth iddo symud ymlaen yn awr drwy ei gamau seneddol, ac wrth gwrs, cawn gyfle yma yn y Cynulliad i wneud rhywfaint o’r gwaith hwnnw hefyd ac i anfon ein casgliadau i San Steffan. Ac er mwyn bod yn effeithiol yn hyn o beth, rwy’n meddwl y byddwn yn dod â mwy o gydbwysedd i’r cyfansoddiad Prydeinig ac felly’n cryfhau’r undeb. Nawr, rwy’n sylweddoli nad yw hwn yn fudd uniongyrchol o ran Plaid Cymru, ond i’r graddau ein bod yn parhau i fod mewn undeb rwy’n siwr y byddwch eisiau sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol mor gadarn â phosibl.
Mae cynnig Plaid Cymru yn canolbwyntio’n bennaf ar blismona a gweinyddu cyfiawnder. Yr hyn a ddywedwn yma yw bod hon yn ddadl y mae angen ei chael, ond mae angen ei chael, rwy’n credu, ar wahân i’r drafodaeth bresennol ar y Bil, oherwydd mae yna faterion pwysig i’w trafod. Mae’n rhywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol ei fod yn rhan o’r setliad datganoli yn yr Alban, ac mae’n awr yn gynyddol yn rhan o’r setliad datganoli yng Ngogledd Iwerddon. Felly, fy hun rwy’n meddwl y dylid ei drafod, ac yn wir cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar hyn dan fy nghadeiryddiaeth yn y pedwerydd Cynulliad. Ond mae’n gwestiwn gwleidyddol mawr. Mae plismona cymunedol yn y rhan fwyaf o wladwriaethau ffederal wedi’i ddatganoli; hynny yw, rhaid cydnabod hynny. Ond fel y casglodd ein hadroddiad, os edrychwch ar y meysydd hyn, yna mae’n bendant yn gwneud synnwyr i roi sylw iddynt yn gyflawn a datganoli cyfiawnder troseddol a pholisi dedfrydu. Ac nid wyf yn siŵr fod etholwyr Cymru yn barod i wneud y penderfyniad hwnnw. Yn sicr mae angen i ni gael dadl lawn am y peth. Mae’n un lle mae gennyf farn nad yw bob amser yn cytuno’n llwyr ag un fy nghyd-Aelodau ar y funud, ond fe fyddwch yn deall, fel llefarydd swyddogol ar y cyfansoddiad ar ran fy ngrŵp, ni allaf fanylu mwy ar y materion hynny yn awr.