Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 15 Mehefin 2016.
Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth yma ar bwnc hanfodol bwysig, ac i rannu rhai o mhryderon i, a dweud y gwir. Nid oes raid pwysleisio pa mor bwysig ydy rheolaeth y gyfraith yn ein bywydau ni. Mae’n ganolog i weithrediad effeithiol unrhyw wladwriaeth wrth sicrhau diogelwch a hawliau ein dinasyddion.
Mae mynediad i’r system gyfiawnder yn rhan annatod a sylfaenol o reolaeth y gyfraith. Heb fynediad, byddai rheolaeth y gyfraith yn gysyniad ac yn ddelfryd yn unig. Ond, yn dilyn toriadau a rhaglen ddiwygiol y system gyfiawnder gan Lywodraeth San Steffan, mae Cymru yn colli allan rhag cael mynediad llawn at system gyfiawnder effeithiol. Rhwng 2010 a 2015, fe gaewyd 15 o lysoedd ledled Cymru gan y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac ers 2015 mae 14 arall naill ai wedi cau neu mae bwriad i’w cau nhw dros y blynyddoedd nesaf. Mae cau llys ynadon Dolgellau, er enghraifft, yn etholaeth fy nghydweithiwr o Ddwyfor Meirionydd, yn golygu y bydd achosion yn cael eu trosglwyddo i Gaernarfon neu Aberystwyth. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â’r rhan yna o’r byd, mae hynny’n golygu taith o dros awr mewn car, os oes gennych chi gar. Fel y gwyddom ni, mae cludiant cyhoeddus yn annigonol yng Nghymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ac yn golygu y bydd hi’n amhosibl i bobl sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus gyrraedd y llys ynadon er mwyn cychwyn am 9.30 a.m.
Mae Llywodraeth San Steffan yn amddiffyn eu penderfyniadau drwy honni nad ydy’r llysoedd yn cael eu defnyddio yn ddigonol, ond mae yna dystiolaeth o sawl ffynhonnell wahanol yn dangos bod achosion llys yn cael eu symud er mwyn ystumio’r ffigurau hyn a chyfiawnhau cau’r llysoedd. Ac os nad diffyg galw ydy’r cyfiawnhad am hyn yna mae’n rhaid dod i’r casgliad ei fod o’n rhan o obsesiwn y Torïaid yn San Steffan i arbed arian heb roi ystyriaeth lawn i’r effaith ar y boblogaeth.
Bydd cau llysoedd yng nghefn gwlad Cymru hefyd yn cael effaith andwyol iawn ar allu person i gynnal eu busnes drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cau llysoedd a’r gostyngiadau mewn lefelau cymorth cyfreithiol, gan gynnwys rhoi contractau cymorth cyfreithiol i gyfreithwyr lleol, yn gwaethygu y duedd lle rydym ni’n gweld cwmnïau bychain annibynnol yn adleoli neu’n cau yn gyfan gwbl. Yng nghadarnleoedd y Gymraeg mi fydd hi bron yn amhosib i drigolion gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chynnal eu busnes drwy gyfrwng yr iaith o’u dewis. Mi ddylai’r Gymraeg, wrth gwrs, fod yn ystyriaeth hanfodol wrth benderfynu os dylai llysoedd penodol gael eu cau ai peidio. Yn wir, mae cynnal y gwasanaethau yma yn y Gymraeg yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Ond, er bod y Llywodraeth ar adegau wedi derbyn hynny ac wedi gwneud tro pedol, mae’n hen bryd i’r penderfyniadau yma gael eu gwneud gan ein Llywodraeth ni yma ar dir Cymru, a fyddai’n llawer mwy effro i anghenion ein cymunedau ni.
Mae’n amlwg bod diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu, ac os ydy mynediad i’r system gyfiawnder yn parhau i fod yn anhygyrch yna bydd rheolaeth y gyfraith yn dod yn ddiystyr.
Fe gafwyd cytundeb unfrydol ymhlith nifer o arbenigwyr cyfreithiol, pan roddwyd tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ystod y cyfnod cyn deddfu ar Fesur Cymru drafft, y dylid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yma yng Nghymru. Ond, er i’r Mesur fethu â derbyn cefnogaeth yma yn y Cynulliad yn ystod tymor y pedwerydd Cynulliad, mae Llywodraeth San Steffan, fel rŷm ni gyd yn ei wybod, wedi dod yn hôl efo Mesur arall sy’n dal i wrthod nid yn unig y cyngor gan arbenigwyr ond hawl sydd eisoes wedi’i rhoi i genhedloedd datganoledig eraill yr undeb. Pa fath o gydraddoldeb ydy hynny?
Efallai nad oes disgwyl i Aelodau’r gwrthbleidiau gefnogi ein cynigion ni heddiw, er rydw i’n gobeithio y gwnaiff rhai ohonoch chi wneud hynny. Ond rydw i’n galw ar y Llywodraeth—er gwaethaf gweithredoedd eich cydweithwyr yn San Steffan yr wythnos hon, rydw i’n galw arnoch chi i gefnogi ein cynnig ni heddiw er mwyn sicrhau tegwch i Gymru, tegwch sydd wedi’i roi eisoes i’r Alban, Gogledd Iwerddon a hyd yn oed rai o ddinasoedd Lloegr—tegwch a fyddai’n sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan sefydliad democrataidd sydd yn uniongyrchol atebol i bobl ein cenedl ni.