Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ildio. Bu’n siarad am y cymalau cadw a’r rhesymeg sy’n sail iddynt ac roeddwn i’n meddwl tybed a yw wedi cael cyfle i ystyried y cymalau cadw yn yr adran ar berthnasoedd teuluol a phlant, sydd i’w gweld yn cynnwys mabwysiadu a rhai rhannau o’r Ddeddf Plant, ac achosion yn ymwneud â gofal, goruchwyliaeth neu amddiffyn plant. Efallai fy mod yn dehongli hyn yn anghywir ar yr wyneb, ond yn amlwg mae’n peri rhywfaint o bryder i mi ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd wedi cael cyfle i feddwl am hynny.