<p>Cyfraddau Canfod Canser</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:40, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roedd hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Sgrinio Serfigol yr wythnos diwethaf, sef prosiect ar draws Ewrop gyfan i godi ymwybyddiaeth o swyddogaeth sgrinio i fynd i'r afael â chanser ceg y groth. Er bod cyfraddau marwolaeth yn gostwng ar gyfer canser ceg y groth, roedd gostyngiad bach hefyd i’r nifer a gafodd eu sgrinio, ac rwy'n arbennig o bryderus bod un o bob tri o bobl 25 i 29 oed nad ydynt yn mynychu eu profion ceg y groth. Sut all Llywodraeth Cymru annog mwy o fenywod o bob oed, ond menywod iau yn arbennig, i fynychu'r profion sgrinio a allai achub eu bywydau?