2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2016.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau canfod canser? OAQ(5)0064(FM)
Byddwn yn parhau â'n rhaglenni sgrinio’r boblogaeth ar gyfer canser y fron, ceg y groth a'r coluddyn, yn ogystal â gwella ein cymorth i feddygon teulu i adnabod symptomau yn well a gwella'r mynediad at brofion.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roedd hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Sgrinio Serfigol yr wythnos diwethaf, sef prosiect ar draws Ewrop gyfan i godi ymwybyddiaeth o swyddogaeth sgrinio i fynd i'r afael â chanser ceg y groth. Er bod cyfraddau marwolaeth yn gostwng ar gyfer canser ceg y groth, roedd gostyngiad bach hefyd i’r nifer a gafodd eu sgrinio, ac rwy'n arbennig o bryderus bod un o bob tri o bobl 25 i 29 oed nad ydynt yn mynychu eu profion ceg y groth. Sut all Llywodraeth Cymru annog mwy o fenywod o bob oed, ond menywod iau yn arbennig, i fynychu'r profion sgrinio a allai achub eu bywydau?
Wel, mae tîm ymgysylltu sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda thimau iechyd cyhoeddus lleol, byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol i ystyried y nifer sy'n cael profion sgrinio serfigol ym mhob rhanbarth ac mae wedi cynllunio gweithgareddau penodol i wella niferoedd, gan gynnwys gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol. Bu pwyslais penodol ar y grwpiau ym mhob rhanbarth lle mae’r niferoedd sy’n cael eu sgrinio ar eu hisaf.
Nid yw’n anarferol i feddyg teulu fethu â sylwi ar symptomau o ganser ar yr ymweliad cyntaf. Ond, os yw diagnosis yn dod yn y pen draw yn dilyn ail neu drydydd ymweliad, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylai’r cloc ddechrau tician, o ran pa bryd y dylai’r driniaeth ddigwydd, o bryd yr oedd yr ymweliad cyntaf, achos triniaeth gyflym i’r claf sydd bwysicaf, nid taro targedau’r Llywodraeth?
Wel, y claf, wrth gwrs, sy’n bwysig ynglŷn â beth sy’n digwydd fan hyn. Ond, a gaf i ddweud, ynglŷn â phrofion diagnostig, er enghraifft, rydym wedi gweld gwellhad sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf? Mae’r ffigurau o Ebrill 2016, er enghraifft, 23 y cant yn is nag Ebrill y llynedd, a 40 y cant yn is na’r pwynt uchaf ym mis Gorffennaf y llynedd. Beth sy’n bwysig, wrth gwrs, yw bod y profion yn cael eu delio â nhw a bod canlyniadau yn dod yn ôl cyn gynted â phosibl.
Brif Weinidog, mae plant ifanc rhwng dim a 14 oed yn llawer mwy tebygol—neu, yn wir, ddwywaith yn fwy tebygol—o gael diagnosis trwy gyflwyniad brys ar gyfer canser. Hoffwn i chi ystyried yr elusen plant CLIC Sargent a'i galwad y dylai cynllun cyflawni ar ganser Cymru ar ei newydd wedd, y bwriedir ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, wella hyfforddiant cychwynnol a pharhaus ym maes iechyd plant a phobl ifanc ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol, ac y dylai adrodd ar lefel y mynediad sydd gan feddygfeydd teulu at arbenigedd iechyd pediatrig a phobl ifanc, i roi sylw i’r mater hwn yn benodol. Nid yw bod rhwng dim a 14 mlwydd oed a pheidio â darganfod bod gennych chi ganser tan i chi gael eich rhuthro i adran damweiniau ac achosion brys yn ffordd dderbyniol ymlaen. Credaf fod angen i'ch Llywodraeth ystyried sut y gall fynd i'r afael â'r sefyllfa honno.
Oes, mae llawer o fathau o ganser, wrth gwrs, yn dod i’r amlwg mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae pobl yn byw gyda’r symptomau, heb wybod beth yw'r symptomau. Gyda phlant, rwy’n amau—er nad oes gen i gymwysterau meddygol—y dybiaeth bob amser fydd mai rhywbeth arall yw’r broblem. Mae'n anodd i feddygon teulu wneud diagnosis o ganser yn gynnar. Er hynny, yn rhan o ailwampio’r cynllun cyflawni ar ganser, byddwn yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud er mwyn cynorthwyo meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill i wella eu gallu i ganfod canser, pan fo hynny'n bosibl, cyn gynted â phosibl.
Brif Weinidog, fel rhywun sydd wedi goroesi canser, gallaf ddweud wrthych o brofiad uniongyrchol bod diagnosis cynnar yn allweddol i oroesi. Mae meddygon teulu yn y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn canser, ac maen nhw’n hollbwysig ar gyfer diagnosis cynnar. Brif Weinidog, canfu Cancer Research UK fod amrywiaeth enfawr o ran mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion diagnostig yng Nghymru. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad at brofion diagnostig hollbwysig? Diolch.
Rwy'n credu fy mod i wedi ateb y cwestiwn hwn wrth ymateb i'r cwestiwn a ofynnwyd gan yr Aelod dros Ynys Môn—sef bod lleihau amseroedd aros diagnostig yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Gwelwn o'r ffigurau a grybwyllais yn gynharach bod amseroedd aros diagnostig yn lleihau yn gyflym iawn yng Nghymru.