<p>Arolwg Staff Cyfoeth Naturiol Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:46, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Cyfrifoldebau’r cadeirydd a'r prif weithredwr yw gwneud yn siŵr bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rwy’n sylwi o'r arolwg bod staff, yn gyffredinol, yn fwy bodlon nag yr oeddent y llynedd. Ond, mae'n iawn i ddweud, pan fyddwn yn ymchwilio’n fwy trylwyr i mewn i’r ffigurau hynny o ran tybiaethau’r rheolwyr, er enghraifft, datblygiad gyrfaol a dealltwriaeth o gyfeiriad y sefydliad, nad oedd y ffigurau cystal. Fel y soniais yn gynharach, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr. Fe’i gwnaed yn eglur iddyn nhw bod yn rhaid iddyn nhw sbarduno newid cadarnhaol o'r brig, a gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy yn y sefydliad.