2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr arolwg diweddaraf o staff Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ(5)0059(FM)
Gwnaf. Mae'n ffeil fawr, fel y gall yr Aelod weld. Rwy’n ymwybodol o ganlyniadau'r arolwg staff. Mater yw hwn, wrth gwrs, i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff hyd braich, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi wedi amlinellu ei siom at y ffigurau a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltiad priodol â staff.
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos yn eglur bod problem gyda'r uwch reolwyr, ac mae'n llawer gwaeth na'r llynedd. Rwyf wedi cael etholwyr sydd wedi cysylltu â mi nad ydynt yn dymuno cael eu henwi, ac maen nhw'n ofnus am y sylwadau y maen nhw wedi eu hanfon ataf, gan ddweud eu bod wedi cael cyfarfod Skype gyda'r cyfarwyddwyr a'u harweinwyr yr wythnos diwethaf—ac roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad mwy trylwyr o ganlyniadau’r arolwg—a oedd yn darllen yn llawer gwaeth na'r rhai a gyhoeddwyd. Rwy'n meddwl mai’r teimlad o'r cyfarfod hwnnw oedd bod y problemau gyda’r rheolwyr is, ac y dylent fynd i ffwrdd a cheisio ei ddatrys eu hunain, er eu bod yn ei weld yn fwy fel rhywbeth y mae angen ei ddatrys o’r brig. Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd hyn yn cael ei wneud, o gofio ei fod yn sefydliad, fel y dywedwch, sydd ar hyd braich oddi wrthych chi eich hun? Sut gwnewch chi gyflawni'r arbedion o £158 miliwn dros 10 mlynedd pan, fel yr wyf yn ei glywed gan staff yno, bod prosesau a chontractau sydd ar waith erbyn hyn yn costio mwy na phan oedden nhw’n cael eu cyflawni gan y sefydliad etifeddiaeth?
Cyfrifoldebau’r cadeirydd a'r prif weithredwr yw gwneud yn siŵr bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rwy’n sylwi o'r arolwg bod staff, yn gyffredinol, yn fwy bodlon nag yr oeddent y llynedd. Ond, mae'n iawn i ddweud, pan fyddwn yn ymchwilio’n fwy trylwyr i mewn i’r ffigurau hynny o ran tybiaethau’r rheolwyr, er enghraifft, datblygiad gyrfaol a dealltwriaeth o gyfeiriad y sefydliad, nad oedd y ffigurau cystal. Fel y soniais yn gynharach, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr. Fe’i gwnaed yn eglur iddyn nhw bod yn rhaid iddyn nhw sbarduno newid cadarnhaol o'r brig, a gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy yn y sefydliad.
Brif Weinidog, yn ôl yr arolwg, mae’n destun pryder mawr bod staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn teimlo eu bod nhw ddim yn cael mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygiad personol pan fydd angen arnynt. Wrth gwrs, mae’n bwysig bod pobl yn cael y cyfleoedd hyn. O ystyried bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol i’ch Llywodraeth chi, sut mae’r Llywodraeth yn sicrhau bod staff yn y sefydliad hwn yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a dysgu i gefnogi eu datblygiad proffesiynol?
Er taw corff sydd ddim yn rhan o’r Llywodraeth yw Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gan yr Ysgrifennydd ddiddordeb clir ynglŷn â sicrhau bod y corff yn gweithredu fel y dylai. I wneud hynny, bydd y Gweinidog eisiau gweld bod y ffigurau hyn yn gwella, ac yn gweld bod yna dystiolaeth bod llwybrau i ddatblygu gyrfaoedd unigolion yn cael eu datblygu, ac ar gael i bobl pan mae eu heisiau.
Mae’r Aelod Plaid Cymru gyferbyn yn iawn i dynnu sylw’r Prif Weinidog at yr arolwg staff diweddar yng Nghyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r canlyniadau yn siomedig ac yn peri pryder. A yw anfodlonrwydd y staff yn adlewyrchiad mewn unrhyw ffordd ar ba mor dda y mae’r corff hwn yn gwasanaethu'r cyhoedd?
Nac ydy, nid wyf yn credu bod hynny’n wir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith da o ran rheoli ein hadnodd coedwigaeth, a gwneud yn siŵr bod cyngor yn cael ei roi ar gael i fusnesau er mwyn lliniaru eu heffaith amgylcheddol, ac wrth gwrs o ran rheoli ein cefn gwlad er lles ein pobl.