Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 21 Mehefin 2016.
Er taw corff sydd ddim yn rhan o’r Llywodraeth yw Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gan yr Ysgrifennydd ddiddordeb clir ynglŷn â sicrhau bod y corff yn gweithredu fel y dylai. I wneud hynny, bydd y Gweinidog eisiau gweld bod y ffigurau hyn yn gwella, ac yn gweld bod yna dystiolaeth bod llwybrau i ddatblygu gyrfaoedd unigolion yn cael eu datblygu, ac ar gael i bobl pan mae eu heisiau.