Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol fod Plaid Cymru, dros flynyddoedd lawer erbyn hyn, wedi hyrwyddo cymhellion i ddenu meddygon i Gymru. Un ffactor pwysig, os ydym ni’n mynd i ddenu pobl i ddod i fyw a gweithio yma fel meddygon teulu wrth i ni hyfforddi mwy o feddygon, yw cyflwr yr economi. Faint yn fwy anodd ydych chi’n asesu y bydd hi i ddenu meddygon teulu i’r ardaloedd hynny lle mae swyddi yn anodd eu llenwi os bydd yr economi’n gwaethygu fel y rhagwelir y bydd yn ei wneud os ceir pleidlais i adael ddydd Iau?