2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 21 Mehefin 2016.
Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog, ac yn gyntaf yr wythnos yma mae arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.
Cyn i mi ddechrau fy nghwestiynau heddiw, Brif Weinidog, hoffwn roi ar goedd ein llongyfarchiadau i dîm pêl-droed Cymru a'r cefnogwyr a'n gwnaeth ni mor falch yn Ffrainc neithiwr. Gallwn barhau ar y trywydd hwnnw, ond rwy'n mynd i symud ymlaen at fy nghwestiynau nawr.
Brif Weinidog, rydych chi a minnau wedi croesi cleddyfau ar sawl achlysur ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol. Neithiwr, cynheliais gyfarfod cyhoeddus gorlawn yn Nhreorci yn y Rhondda, cymuned sydd ar fin colli ei meddygfa deulu gan fod y bwrdd iechyd yn dweud wrthyf fod prinder meddygon, yr ydym ni i gyd yn gwybod amdano. Heb fynd ar drywydd dadleuon ynghylch faint o feddygon sydd eu hangen arnom, a wnewch chi gadarnhau, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau, y bydd y GIG yng Nghymru yn ei chael yn anoddach fyth recriwtio meddygon o dramor nag y bu hyd yn hyn?
Wel, a gaf i yn gyntaf oll fynegi fy siom braidd at y ffaith fod arweinydd yr wrthblaid wedi achub y blaen arnaf i pan ddaw i longyfarch tîm pêl-droed Cymru? Canlyniad ardderchog neithiwr. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, yno—mae'n edrych yn dda ar ôl noson o’r fath a welsom. Mae hyn yn hynod o bwysig i Gymru o ran ein proffil ledled y byd a'r ffaith fod llai a llai o bobl a fydd yn dweud, 'Cymru? Ble mae fanno?’ Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Ond mae arweinydd yr wrthblaid yn codi pwynt hynod bwysig, sef, 'Pa neges ydym ni’n ei chyfleu i feddygon a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill os byddwn yn gadael yr UE?' Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, y dywedir bod pobl sy'n dod yma sy’n fewnfudwyr yn rhoi pwysau ar y GIG. Nid wyf yn derbyn hynny; maen nhw’n ifanc yn bennaf, maen nhw’n gweithio ac anaml y byddant yn gweld meddyg. Y gwir yw eu bod yn cyfrannu, yn enwedig y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio yn y GIG, at helpu i ofalu am bobl sâl yng Nghymru. Effaith pleidlais i adael fyddai anfon y neges i weithwyr meddygol proffesiynol, 'Peidiwch â dod yma. Gallwch fynd i unrhyw le arall yn Ewrop, ond peidiwch â meddwl eich bod yn dod yma', a bydd hynny’n ei gwneud yn llawer mwy anodd i ddenu’r arbenigedd meddygol sydd ei angen arnom i mewn i Gymru.
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol fod Plaid Cymru, dros flynyddoedd lawer erbyn hyn, wedi hyrwyddo cymhellion i ddenu meddygon i Gymru. Un ffactor pwysig, os ydym ni’n mynd i ddenu pobl i ddod i fyw a gweithio yma fel meddygon teulu wrth i ni hyfforddi mwy o feddygon, yw cyflwr yr economi. Faint yn fwy anodd ydych chi’n asesu y bydd hi i ddenu meddygon teulu i’r ardaloedd hynny lle mae swyddi yn anodd eu llenwi os bydd yr economi’n gwaethygu fel y rhagwelir y bydd yn ei wneud os ceir pleidlais i adael ddydd Iau?
Wel, os ydych chi’n feddyg cymwysedig yn yr Undeb Ewropeaidd ac y dywedir wrthych, 'Gallwch deithio i 27 o wledydd eraill heb fod angen fisa, neu ddod i'r DU ond mae angen fisa arnoch chi', nid oes angen athrylith i weithio allan ei bod yn llawer haws mynd i'r gwledydd eraill. Felly, bydd y DU yn troi’n lle mwy anodd i recriwtio staff meddygol i mewn iddo. Ond, bydd, wrth gwrs, bydd effaith ar yr economi. Rwyf wedi treulio llawer o fy amser yn siarad â busnesau, yn denu buddsoddiad i Gymru, ac mae'r ffigurau diweithdra yn dystiolaeth o sut y mae hynny wedi gweithio. Byddai hwn yn glwyf a achosid gennym ni ein hunain. Ni fyddem yn gallu cynnig yr un math o sicrwydd i fusnesau fel y byddai Iwerddon, neu fel y byddai Ffrainc, neu fel y byddai’r Almaen, gan na fyddem yn gallu dweud am flynyddoedd pa fath o fynediad at y farchnad Ewropeaidd y gallai busnesau ei fwynhau pe byddent wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae hynny'n wael i fusnes yng Nghymru.
Nid wyf yn anghytuno â chi yn hynny o beth, Brif Weinidog. Efallai’n wir y byddwn yn anghytuno am ddyfodol y GIG yng Nghymru a’r hyn sydd angen digwydd i’w ddiogelu, ond yr hyn yr ydym ni yn cytuno arno yw ein cyd-wrthwynebiad i breifateiddio. Nawr, tybed a ydych chi’n credu ei bod yn fwy neu'n llai tebygol y bydd y GIG yn cael ei agor ar gyfer preifateiddio os bydd pleidlais i adael. Rydym ni’n gwybod bod gwleidyddion asgell dde ar draws nifer o bleidiau yn San Steffan yn awyddus i ymuno â TTIP, partneriaeth masnach a buddsoddi’r Iwerydd, a fydd, wrth gwrs, yn ei gwneud yn haws i werthu gwasanaethau cyhoeddus i'w ffrindiau. A ydych chi’n credu bod gennym ni well cyfle o osgoi'r niwed a allai gael ei achosi i'n GIG gan TTIP trwy ymuno ac aros gyda gwledydd eraill sy'n gallu ei wrthsefyll?
Wel, y gwir amdani yw bod yr UE a'r Unol Daleithiau yn flociau masnachu mawr. Mae'r DU yn llawer, llawer llai. Mae'n dod i lawr i faint o ddylanwad sydd gennych chi yn y farchnad yn y pen draw. Mae hi a minnau yn yr un sefyllfa—ni fyddem ni eisiau gweld unrhyw fath o breifateiddio yn y GIG. A dweud y gwir, rwy’n gweld yr unigolion yn yr ymgyrch i adael—Boris Johnson, Michael Gove, Nigel Farage—ac nid wyf yn ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol ein GIG. Nid wyf yn ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol GIG a ariennir yn gyhoeddus, sydd ar gael yn gyhoeddus, ac, o’m safbwynt i, rwy'n falch bod y gwasanaeth iechyd wedi ei ddatganoli fel na allant gael eu dwylo ar y GIG yng Nghymru. Mae hynny'n hynod bwysig. Ond, na, bydd hi a minnau, rwy’n siŵr, yn rhannu cryn amheuaeth bod y bobl sy'n arwain yr ymgyrch honno wedi cael eu darbwyllo’n sydyn o rinweddau grym y wladwriaeth i sicrhau lles ei phobl.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf innau hefyd yn uniaethu â sylwadau arweinydd yr wrthblaid a'r Prif Weinidog ar y fuddugoliaeth neithiwr. Achosodd broblemau yn fy swyddfa i gan fod gen i sawl aelod allan yno, ac nid yw mynd mewn fan wersylla am wythnos yn hysbyseb gwych, gyda phum cefnogwr pêl-droed, a nawr bydd yn rhaid iddyn nhw ymestyn eu hamser ar gyfer y gêm nesaf a, gobeithio, parhad drwy'r bencampwriaeth. Ond, llongyfarchiadau mawr i gefnogwyr Cymru ar y ffordd y maen nhw wedi ymddwyn, a llongyfarchiadau mwy fyth i dîm Cymru ar y ffordd y gwnaethon nhw chwarae neithiwr.
Brif Weinidog, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru. Roedd hi’n Ddiwrnod Balchder Awtistig ddydd Sadwrn diwethaf, ac, yn 2009, pasiodd Llywodraeth San Steffan Ddeddf i wella gwasanaethau awtistiaeth yn Lloegr. Rhan o'n maniffesto oedd cyflwyno Deddf yn ystod y tymor Cynulliad hwn i geisio cyflawni’r gwelliannau hyn yng Nghymru, fel y byddai byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn gwybod yn union yr ymrwymiadau y byddai'n rhaid iddyn nhw eu gwneud i'r 34,000 sydd wedi cael y diagnosis hwn ac sy’n brwydro i gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt yma yng Nghymru. A wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i gyflwyno Deddf i gefnogi gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru, yn debyg i'r un a gyflwynwyd yn 2009 yn San Steffan?
Wel, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n rhoi ystyriaeth ymarferol iddo. Nid wyf yn dweud y byddwn yn ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yn San Steffan. Rwy’n credu bod angen ei ystyried ar wahân i ddeddfwriaeth arall, ond, yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n barod i’w drafod gyda phleidiau eraill er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sydd gennym ar gyfer awtistiaeth y gorau y gallant fod.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Hoffwn dalu teyrnged i’m cydweithiwr Mark Isherwood sydd wedi hyrwyddo’r achos ynghylch gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru am lawer iawn o flynyddoedd. Er bod y trafodaethau hynny’n parhau, ac yn sicr ni wnaethoch chi ddiystyru’r cyfle i gyflwyno deddfwriaeth, pa—[Torri ar draws.]
Ewch ymlaen. [Chwerthin.]
Pa welliannau allwn ni eu gweld, tra bod y trafodaethau hynny’n cael eu cynnal, ynghylch y fframwaith deddfwriaeth? Oherwydd ceir 34,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis ac mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dweud bod gwasanaethau i'w cefnogi yn 'ddarniog' yma yng Nghymru. Felly, beth allwn ni ei ddisgwyl yn y cyfamser, pan fyddwn ni, gobeithio, yn dod i gytundeb i gyflwyno deddfwriaeth i ymgorffori hawliau pobl sydd wedi cael diagnosis i ddisgwyl y ddarpariaeth o wasanaethau yma yng Nghymru?
Yr her gyntaf, wrth gwrs, yw cael diagnosis, a gall hynny gymryd cryn amser. Oherwydd bod awtistiaeth, fel y mae’r Aelod yn gwybod, yn bodoli ar sbectrwm, ceir rhai elfennau o awtistiaeth nad yw’n rhwydd cael diagnosis ohonynt, a'r diagnosis yw’r cam cyntaf. Mae wedi gofyn am y rhai sydd wedi cael diagnosis. Wel, rydym ni’n ceisio sicrhau, wrth gwrs, cysondeb ar draws Cymru—dyna pam yr ydym ni wedi clustnodi gwariant ar iechyd meddwl i wneud yn siŵr bod mwy o wasanaethau ar gael. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi darparu mwy o arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, gan fod y galw ar CAMHS yn sylweddol a chydnabuwyd gennym fod angen bodloni’r galw hwnnw. Rydym ni’n disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol ddarparu gwasanaeth cyson i gefnogi nid yn unig y rhai sy'n cael diagnosis o awtistiaeth, ond y rhai, wrth gwrs, sy'n gofalu amdanyn nhw hefyd.
Rydych chi wedi cyflwyno CAMHS i'r trywydd holi—hoffwn symud i’r maes hwnnw, os caf. Bu cynnydd enfawr i’r atgyfeiriadau i CAMHS mewn gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yn enwedig—tua 120 y cant ers 2010. Mae'r amseroedd aros yn y maes penodol hwn yn ddychrynllyd, a dweud y lleiaf, gydag un o bob wyth o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio yn aros mwy na 40 wythnos, pan mai 14 wythnos yw targed amser atgyfeirio Llywodraeth Cymru ei hun. Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru, Llywodraeth newydd Cymru, eu cymryd i roi sylw i’r amseroedd aros hirfaith hyn, sydd, fel y dywedais, wedi arwain at un o bob wyth o bobl ifanc yn aros mwy na 40 wythnos am y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, pan fo Llywodraeth Cymru wedi torri’r arian i CAMHS gan bron i 7 y cant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf?
Wel, na, nid yw hynny'n gywir. Mae arian ychwanegol wedi mynd i mewn i CAMHS. Dioddefodd CAMHS, mewn rhai ffyrdd, oherwydd ei lwyddiant ei hunan ar y cychwyn. Ar ôl iddi ddod yn hysbys bod y gwasanaeth ar gael, roedd hi’n llawer haws i feddygon teulu atgyfeirio i CAMHS, ac, yn wir, mae'n iawn i ddweud bod galw wedi mynd yn eithaf uchel. Gwnaethom gymryd camau wedyn, wrth gwrs, i sicrhau bod y cyllid ar gael er mwyn gallu ateb y galw hwnnw, ac rwy’n sicr yn disgwyl gweld amseroedd aros yn lleihau dros amser, wrth i’r arian lifo drwy'r system.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae canlyniad neithiwr yn dangos y gall gwledydd bach gystadlu yn erbyn rhai llawer mwy yn y byd a llwyddo, os byddant yn mynd i’r afael â thasg yn yr ysbryd cywir. Rwy'n siŵr y bydd Ken Skates o fantais i Gymru pryd bynnag y bydd yn chwarae o gwmpas y byd, os gall ef gyflawni canlyniadau tebyg i neithiwr.
Ond, gan ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnwyd gan arweinydd yr wrthblaid, nid oes unrhyw reswm, onid oes, pam ddylai system mewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau, fel y ceir yn Awstralia, gyfyngu mewn unrhyw ffordd ar nifer y meddygon sy'n dod i'r DU, ond gallai ein galluogi i gyfyngu ar y rhai nad ydynt yn dod i gael swyddi, sy'n cystadlu ag eraill. Tybed a yw’n cytuno â'r hyn yr adroddwyd bod Len McCluskey, cyfrannwr ariannol mwyaf y Blaid Lafur, wedi ei ddweud yn y papurau heddiw, sef bod agor ffiniau i wledydd dwyrain Ewrop yn 2004 wedi arwain at arbrawf enfawr ar draul gweithwyr cyffredin, ac mae wedi arwain at pwysau cyson ar safonau byw ac ymgais systematig i gadw cyflogau’n isel a thorri costau darpariaeth gymdeithasol ar gyfer pobl sy'n gweithio.
Nid wyf wedi gweld y sylwadau hynny. Ar y cychwyn, roedd yn ymddangos ei fod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, gan siarad am wledydd bychain. Rwy'n siŵr y bydd yn egluro ei safbwynt yn ddiweddarach. Nid wyf yn credu hynny, a byddaf yn esbonio pam: y rheswm pam mae pobl yn ddig ar hyn o bryd yw oherwydd eu bod yn teimlo nad yw eu swyddi yn ddiogel. Maen nhw’n cofio’r dyddiau pan oedd swyddi ar gael, pan roedd ganddyn nhw gontractau hirdymor, pan oedd pensiynau ar y diwedd, pan oedd cydnabyddiaeth gref o undeb llafur. Cymerwyd yr hawliau hynny oddi arnynt yn gyson dros flynyddoedd lawer iawn, a'r hyn yr ydym ni’n ei weld nawr yw gormod o bobl mewn swyddi lle mae'r cyflogau’n is, lle ceir cytundebau dros dro, lle ceir contractau dim oriau a lle nad oes cydnabyddiaeth undeb llafur ar gael iddynt. Rydym ni’n gweld hynny, wrth gwrs, yn cael ei grynhoi yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda Mike Ashley—dyna’r math o ddyfodol nad ydym ni eisiau ei weld ar y meinciau hyn, nid o bell ffordd. Dyna sy’n sbarduno dicter pobl. Ond, y gwir yw y bydd y lefelau mewnfudo yn parhau i fod yr un fath ag y maent dros yr ychydig flynyddoedd nesaf o leiaf, beth bynnag sy'n digwydd. Nid yw'n fater o fewnfudwyr yn achosi'r broblem; mae'n fater o ffaith nad yw'r gyfraith yn ddigon cryf, ac nid yw’r gydnabyddiaeth o undebau llafur yn ddigon cryf i wneud yn siŵr bod gan bobl y swyddi diogel sydd eu hangen arnynt. Nid wyf yn amau o gwbl nad yw’r bobl hynny sy'n dadlau y dylem ni adael yr UE yn mynd i ddweud yn sydyn, 'Gadewch i ni fynd yn ôl i’r dyddiau pan oedd cydnabyddiaeth o undebau llafur yn gryf, pan oedd gennym ni gyflogau uwch, pan oedd gennym ni gontractau hirdymor, pan nad oedd gennym ni gontractau dim oriau, pan oedd gan bobl bensiynau ar ddiwedd eu swyddi.' Nid wyf un gweld dim o hynny yn dod oddi wrth yr ymgyrch i adael.
Ymddengys bod y Prif Weinidog yn gwadu bod ychwanegu dinas o faint Caerdydd at ein poblogaeth genedlaethol bob blwyddyn yn cael unrhyw effaith ar gyflogau. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod Banc Lloegr yn anghytuno â hynny. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Banc Lloegr fod cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo yn arwain at ostyngiad o 2 y cant i gyflogau ar gyfer pobl heb sgiliau a lled-fedrus. Felly, er efallai fod popeth yn iawn i’r dosbarthiadau proffesiynol a phobl sydd eisiau glanhawyr a garddwyr ac yn y blaen gael mewnfudo diderfyn, mae hyn yn newyddion drwg iawn yn wir i’r rhai ar waelod y raddfa incwm.
Dylai edrych ar ei feinciau ei hun pan ddaw i gyflogi’r rhai hynny o ddwyrain Ewrop, oni ddylai? Hynny yw, y gwir yw, ar y naill law, mae ei blaid ef yn dweud, 'Wel, wrth gwrs, mae’n rhaid i chi atal pobl rhag dod i mewn', ac ar y llaw arall, yn hapus iawn i gyflogi pobl pan fyddan nhw yma. Y gwir yw, o boblogaeth o 3 miliwn yng Nghymru, bod gennym ni 47,000 o bobl sy'n wladolion un o wladwriaethau eraill yr UE—mae'n ganran fach iawn. Mae llawer o'r bobl hynny mewn swyddi medrus: maen nhw’n gweithio ym maes meddygaeth, maen nhw’n gweithio ym maes nyrsio, maen nhw’n gweithio ym maes deintyddiaeth. Gallaf ddangos iddo, os hoffai, yn fy etholaeth fy hun, y bobl hyn a'r gwasanaeth y maen nhw’n ei gyfrannu. Y pwynt yw hyn: os ydych chi’n feddyg ac yn dymuno mynd â'ch sgiliau o gwmpas Ewrop, rydych chi’n llawer mwy tebygol o fynd i rywle lle nad oes rhwystrau nag i wlad lle mae'n rhaid i chi lenwi ffurflenni i weithio. Mae'n natur ddynol syml. Po fwyaf y rhwystrau yr ydym ni’n eu rhoi o flaen gweithwyr medrus, y lleiaf tebygol y maen nhw o ddod yma.
Wel, rwy'n meddwl bod pen y Prif Weinidog yn y cymylau yn hynny o beth, ac mae nifer fawr o gyn-bleidleiswyr Llafur o'r un farn. Ond nid yw’n ymwneud yn unig â mewnfudo yn rhoi pwysau ar safonau byw pobl gyffredin. Ceir llawer o ffyrdd eraill y mae'r UE yn gwneud hyn hefyd—cost y polisi amaethyddol cyffredin, er enghraifft, sydd yn ôl pob tebyg yn ychwanegu hyd at £500 y flwyddyn at gyllidebau cartrefi pobl gyffredin; £500 y flwyddyn ar gyfer trethi gwyrdd ac ardollau newid yn yr hinsawdd eraill; ac, oherwydd y tariffau y mae’r UE yn eu gorfodi ar fewnforio dillad o rannau eraill o'r byd, mae’r swm cyfartalog y mae pobl yn ei wario ar ddillad, mewn cartref cyffredin, tua £150 y flwyddyn yn fwy nag y byddai fel arall. Felly, mewn cymaint o ffyrdd, mae'r UE yn erbyn buddiannau pobl gyffredin, y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Tybed a glywodd arweinydd y Ceidwadwyr hynna, o ran y polisi amaethyddol cyffredin. Dyna ddiwedd ar ei warantau—mae ef newydd glywed gan UKIP eu bod nhw eisiau cael gwared ar y polisi amaethyddol cyffredin. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cael gwared ar gymorthdaliadau. Mae'n golygu caniatáu mwy o gig oen Seland Newydd am bris rhatach—dyna mae'n ei olygu—mae’n golygu cymryd amddiffyniadau ein ffermwyr oddi wrthynt, cymryd y cymorthdaliadau a gânt oddi wrthynt. Dyna mae’n ei olygu wrth ddweud hynny. Nid yw wedi ystyried yn fanwl yr hyn a ddywedodd— [Torri ar draws.] Mae'n teimlo embaras nawr, arweinydd y Ceidwadwyr, o fod ar yr un ochr—nid wyf yn synnu ei fod yn teimlo embaras am fod ar yr un ochr ag UKIP ar hyn. Byddai’r hyn y mae newydd ei gynnig, arweinydd UKIP, yn golygu y byddai ffermwyr yn colli arian, ni fyddent yn gallu allforio am bris rhesymol i'r farchnad Ewropeaidd, byddai cig oen Seland Newydd yn dod i mewn yn rhatach gan na fyddai unrhyw dariffau oherwydd masnach rydd, a byddai ar ben ar ein ffermwyr. Nawr rydym ni’n gwybod y gwir am yr hyn y mae’r dde yn ei ddweud—eu bod nhw eisiau gwneud yn siŵr bod ein ffermwyr yn colli'r amddiffyniad y mae Ewrop yn ei gynnig.