<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yr her gyntaf, wrth gwrs, yw cael diagnosis, a gall hynny gymryd cryn amser. Oherwydd bod awtistiaeth, fel y mae’r Aelod yn gwybod, yn bodoli ar sbectrwm, ceir rhai elfennau o awtistiaeth nad yw’n rhwydd cael diagnosis ohonynt, a'r diagnosis yw’r cam cyntaf. Mae wedi gofyn am y rhai sydd wedi cael diagnosis. Wel, rydym ni’n ceisio sicrhau, wrth gwrs, cysondeb ar draws Cymru—dyna pam yr ydym ni wedi clustnodi gwariant ar iechyd meddwl i wneud yn siŵr bod mwy o wasanaethau ar gael. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi darparu mwy o arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, gan fod y galw ar CAMHS yn sylweddol a chydnabuwyd gennym fod angen bodloni’r galw hwnnw. Rydym ni’n disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol ddarparu gwasanaeth cyson i gefnogi nid yn unig y rhai sy'n cael diagnosis o awtistiaeth, ond y rhai, wrth gwrs, sy'n gofalu amdanyn nhw hefyd.