Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 21 Mehefin 2016.
Wel, na, nid yw hynny'n gywir. Mae arian ychwanegol wedi mynd i mewn i CAMHS. Dioddefodd CAMHS, mewn rhai ffyrdd, oherwydd ei lwyddiant ei hunan ar y cychwyn. Ar ôl iddi ddod yn hysbys bod y gwasanaeth ar gael, roedd hi’n llawer haws i feddygon teulu atgyfeirio i CAMHS, ac, yn wir, mae'n iawn i ddweud bod galw wedi mynd yn eithaf uchel. Gwnaethom gymryd camau wedyn, wrth gwrs, i sicrhau bod y cyllid ar gael er mwyn gallu ateb y galw hwnnw, ac rwy’n sicr yn disgwyl gweld amseroedd aros yn lleihau dros amser, wrth i’r arian lifo drwy'r system.