<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Dylai edrych ar ei feinciau ei hun pan ddaw i gyflogi’r rhai hynny o ddwyrain Ewrop, oni ddylai? Hynny yw, y gwir yw, ar y naill law, mae ei blaid ef yn dweud, 'Wel, wrth gwrs, mae’n rhaid i chi atal pobl rhag dod i mewn', ac ar y llaw arall, yn hapus iawn i gyflogi pobl pan fyddan nhw yma. Y gwir yw, o boblogaeth o 3 miliwn yng Nghymru, bod gennym ni 47,000 o bobl sy'n wladolion un o wladwriaethau eraill yr UE—mae'n ganran fach iawn. Mae llawer o'r bobl hynny mewn swyddi medrus: maen nhw’n gweithio ym maes meddygaeth, maen nhw’n gweithio ym maes nyrsio, maen nhw’n gweithio ym maes deintyddiaeth. Gallaf ddangos iddo, os hoffai, yn fy etholaeth fy hun, y bobl hyn a'r gwasanaeth y maen nhw’n ei gyfrannu. Y pwynt yw hyn: os ydych chi’n feddyg ac yn dymuno mynd â'ch sgiliau o gwmpas Ewrop, rydych chi’n llawer mwy tebygol o fynd i rywle lle nad oes rhwystrau nag i wlad lle mae'n rhaid i chi lenwi ffurflenni i weithio. Mae'n natur ddynol syml. Po fwyaf y rhwystrau yr ydym ni’n eu rhoi o flaen gweithwyr medrus, y lleiaf tebygol y maen nhw o ddod yma.