Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 21 Mehefin 2016.
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna? Rwy’n cytuno’n llwyr: rydym ni’n dal i fod wedi ymrwymo i ofal rhagorol, o ansawdd uchel ledled Cymru. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud o'r blaen, mae adroddiad yr OECD yn cadarnhau nad oes yr un system ar draws y DU yn perfformio’n well nag un arall. Er bod llawer i fod yn fodlon ag ef yn yr adroddiad hwnnw, mae gwaith i'w wneud mewn rhai meysydd o hyd—mae cymaint â hynny’n eglur. Ni allwn fod yn fodlon 100 y cant. Rydym ni’n disgwyl i fyrddau iechyd wneud yn siŵr eu bod yn gwireddu eu potensial fel sefydliadau sy’n gallu darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl.