2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2016.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau gofal ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru? OAQ(5)0072(FM)
Rydym ni’n mynnu’r safonau uchaf o ofal i bobl Cymru. Rydym ni wedi cyflwyno fframweithiau canlyniadau a safonau trylwyr, trefniadau rheoli perfformiad effeithiol, yn ogystal â threfnau rheoleiddio ac arolygu cadarn, sy'n sbarduno gwelliant ac ansawdd mewn gwasanaethau.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr arolwg hanfodion gofal a gynhaliwyd ym mhob ysbyty ledled Cymru, datgelwyd bod boddhad cyffredinol cleifion â'r GIG yn dal i fod yn hynod o uchel, wrth i 98 y cant o gleifion gofnodi y gwnaed iddynt deimlo'n ddiogel a 99 y cant yn dweud eu bod wedi cael eu trin gydag urddas a pharch. Mae'r canfyddiadau cadarnhaol hyn yn newyddion i'w croesawu ac yn dyst i’r gwaith o ansawdd uchel sy’n ganolog i’r GIG yng Nghymru, a bwysleisiwyd gan adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gynharach eleni. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu’r canlyniadau hyn, sy’n dangos nad yw Llafur Cymru wedi simsanu yn ein hymdrechion i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau yn y GIG? A fyddech chi’n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i adeiladu ar hyn ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i ragoriaeth mewn gofal ar draws y GIG yng Nghymru?
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna? Rwy’n cytuno’n llwyr: rydym ni’n dal i fod wedi ymrwymo i ofal rhagorol, o ansawdd uchel ledled Cymru. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud o'r blaen, mae adroddiad yr OECD yn cadarnhau nad oes yr un system ar draws y DU yn perfformio’n well nag un arall. Er bod llawer i fod yn fodlon ag ef yn yr adroddiad hwnnw, mae gwaith i'w wneud mewn rhai meysydd o hyd—mae cymaint â hynny’n eglur. Ni allwn fod yn fodlon 100 y cant. Rydym ni’n disgwyl i fyrddau iechyd wneud yn siŵr eu bod yn gwireddu eu potensial fel sefydliadau sy’n gallu darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl.
Brif Weinidog, mae cysondeb wedi’i integreiddio a chydweithredu i ddarparu gwasanaethau yn nodau allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac eto, y gwir amdani yng Nghymru, yma, yw bod 34 y cant o gleifion yn aros ymhell dros chwe wythnos i ddychwelyd adref o wely GIG. Rwy’n gwybod yn uniongyrchol, o faterion gwaith achos sydd wedi codi, ac o brofiad personol diweddar yn wir, bod y cyswllt cyfathrebu rhwng yr ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn wael iawn mewn gwirionedd ac yn aml yn arwain at oedi a diffyg darpariaeth o wasanaethau ar gyfer pan fydd pobl yn dychwelyd adref, yn aml yn agored iawn i niwed. Mae dull cydgysylltiedig o ran therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a gofal nyrs ardal yn hanfodol, ond anaml iawn y maent ar gael yn gydgysylltiedig. Drwy eich gwerthusiad tair blynedd o’r Ddeddf hon, sut gwnewch chi fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn er mwyn cyflawni’r addewidion sydd wedi’u cynnwys yn Neddf eich Llywodraeth, i'w gwneud yn ystyrlon ac yn berthnasol i’r union bobl hynny sydd wir yn dibynnu arni?
Wel, gwelsom lefel yr oediadau’n gostwng 7.6 y cant ym mis Ebrill, ac adroddwyd gostyngiad pellach o 2.6 y cant ym mis Mai. Gostyngodd nifer y cleifion a gadwyd mewn gwelyau acíwt ym mis Mai hefyd: gostyngiad o 7 y cant o’r mis blaenorol. Bu gostyngiad sylweddol i nifer y cleifion sy'n aros i adael cyfleusterau iechyd meddwl: gostyngiad o 20 y cant. Bydd darpariaethau yn y Ddeddf—Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), hynny yw—yn sicrhau llawer mwy o weithio ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, yr wyf yn siŵr yr hoffai pob ochr ei weld. Bydd y partneriaethau rhanbarthol, a arweinir gan fyrddau iechyd, yn sicrhau y bydd yn rhaid i lai a llai o bobl aros yn hwy nag y dylent cyn y gallant adael yr ysbyty.