<p>Safonau Gofal ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:07, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, gwelsom lefel yr oediadau’n gostwng 7.6 y cant ym mis Ebrill, ac adroddwyd gostyngiad pellach o 2.6 y cant ym mis Mai. Gostyngodd nifer y cleifion a gadwyd mewn gwelyau acíwt ym mis Mai hefyd: gostyngiad o 7 y cant o’r mis blaenorol. Bu gostyngiad sylweddol i nifer y cleifion sy'n aros i adael cyfleusterau iechyd meddwl: gostyngiad o 20 y cant. Bydd darpariaethau yn y Ddeddf—Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), hynny yw—yn sicrhau llawer mwy o weithio ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, yr wyf yn siŵr yr hoffai pob ochr ei weld. Bydd y partneriaethau rhanbarthol, a arweinir gan fyrddau iechyd, yn sicrhau y bydd yn rhaid i lai a llai o bobl aros yn hwy nag y dylent cyn y gallant adael yr ysbyty.