Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 21 Mehefin 2016.
Mae’n dod yn hawdd darogan fy sylwadau— rydych chi wedi rhagweld fy nghwestiwn atodol, Brif Weinidog. Soniasoch wrth ateb y cwestiwn diwethaf am yr heriau sy'n ein hwynebu o ran cael cyllid digonol gan y Trysorlys. Yn sicr, ar ôl datganoli trethi, mae'n mynd i fod yn hanfodol bod y fframwaith ariannol ar waith fel nad yw unrhyw ddidyniadau dilynol o’r grant bloc yn mynd i gynnig bargen wael i Gymru mewn gwirionedd. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich trafodaethau ynghylch cynnydd tuag at fframwaith cyllidol?