2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2016.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli trethi? OAQ(5)0063(FM)
Rwyf wedi ei gwneud yn eglur y byddaf yn cefnogi datganoli pwerau trethi pellach dim ond os bydd fframwaith cyllidol teg. Mae trafodaethau ar y gweill ac rwy’n disgwyl i Lywodraeth y DU gadw ei gair a chytuno bargen gyllido deg a chryf.
Mae’n dod yn hawdd darogan fy sylwadau— rydych chi wedi rhagweld fy nghwestiwn atodol, Brif Weinidog. Soniasoch wrth ateb y cwestiwn diwethaf am yr heriau sy'n ein hwynebu o ran cael cyllid digonol gan y Trysorlys. Yn sicr, ar ôl datganoli trethi, mae'n mynd i fod yn hanfodol bod y fframwaith ariannol ar waith fel nad yw unrhyw ddidyniadau dilynol o’r grant bloc yn mynd i gynnig bargen wael i Gymru mewn gwirionedd. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich trafodaethau ynghylch cynnydd tuag at fframwaith cyllidol?
Rwyf wedi ei gwneud yn eglur iawn, pan ddaw i Fil Cymru, ei bod yn gwbl hanfodol na ddylai'r pwerau gael eu datganoli heb ganiatâd y Cynulliad hwn. Y rheswm pam yr wyf yn dweud hynny yw y dylid cael cytundeb ar y fframwaith cyllidol. Os yw'n ddigon da i’r Alban, mae'n ddigon da i Gymru, ac nid yw’n ddigon da i ddweud wrth Cymru—iddi gael fframwaith cyllidol wedi ei orfodi arni, pan fo trafodaeth a chytundeb gwirioneddol rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Rydym ni’n disgwyl i Gymru gael yr un driniaeth.
Wrth gwrs, mae'n gambl enfawr datganoli treth incwm heb reolaeth dros bolisi macro-economaidd na heb ddiogelu incwm. Caiff treth incwm Cymru ei heffeithio gan benderfyniadau yn San Steffan. Rydym ni’n gwybod y bu gostyngiad o £440 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10, ac nid oedd dim o hynny’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os caiff trethi eu datganoli, bod angen cymysgedd o drethi cylchol a gwrth-gylchol arnom, ac, os caiff treth incwm ei datganoli, bod angen i ni gael ein diogelu rhag lleihad mewn derbyniadau treth o dreth incwm yng Nghymru a achosir gan benderfyniadau San Steffan?
Mae’r Aelod yn iawn, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr—byddwn yn gwneud yn siŵr—bod hyn yn rhan o'r penderfyniadau o ran y fframwaith cyllidol, y bydd, yn fy marn i, angen ei gytuno gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn sy'n hanfodol, yn fy marn i, yw bod gennym ni gytundeb a fydd yn sail i’n trefniadau ariannu ar gyfer yr hirdymor, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cyflwyno’r mesurau diogelwch y mae’r Aelod wedi eu codi, yn gwbl gywir, yn enwedig pan ddaw i ddatganoli treth incwm yn rhannol, fel nad yw Cymru ar ei cholled. Rydym ni’n awyddus i gael system drethi deg, ond nid un sy'n tanseilio’r system ariannu a fu gennym ni hyd yn hyn, er ei bod yn ddiffygiol, trwy fformiwla Barnett. Felly, mae'n hynod bwysig, ac mae'n wir y bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau a fydd yn parhau.
A ydy’r Prif Weinidog yn gallu egluro’r dryswch sydd yna ar hyn o bryd ynglŷn â’r dreth teithwyr awyr? Ar 9 Mehefin yr oedd Jim O’Neill ar ran y Trysorlys yn Llundain wedi cadarnhau bod yr adolygiad ynglŷn â datganoli’r dreth i Gymru yn parhau, ac wedyn, ychydig o ddyddiau wedyn, roedd Guto Bebb o Swyddfa Cymru ar ei draed yn Nhŷ’r Cyffredin yn dweud bod y penderfyniad wedi cael ei wneud i beidio. P’un yw e? A ydy’r Prif Weinidog yn synnu bod y Ceidwadwyr Cymreig fel petaent yn fwy bodlon gwrando ar faes awyr ym Mryste, sydd wedi ei berchen gan gronfa bensiwn o Ontario, nag ydyn nhw ar Senedd pobl Cymru fan hyn?
Nid wyf yn gallu anghytuno â hynny. Rŷm ni wedi bod yn dadlau ers amser y dylai’r dreth hon gael ei datganoli. Mae wedi cael ei datganoli i’r Alban.
Mae’r adolygiad y mae’r Aelod yn sôn amdano yn adolygiad i mewn i feysydd awyr Lloegr, ac nid Caerdydd, i weld beth fydd effaith datganoli’r pwerau i’r Alban ar feysydd awyr Lloegr. So, felly, nid yw Cymru yn rhan o’r ‘equation’ yn fan hyn. Wel, nid oes synnwyr o gwbl pam ddylai’r dreth hon gael ei datganoli i’r Alban ac nid i Gymru. Gwnaeth Guto Bebb sôn bod hyn yn rhywbeth na allai gytuno ag ef o achos y ffaith na fyddai unrhyw fath o les i’r gogledd. Wel, mae yna les i’r gogledd. Mae yna les i feysydd awyr fel Penarlâg, fel y Fali, lle byddai cyfle i ddatblygu awyrennau, i ddatblygu gwasanaethau, i sicrhau bod mwy o awyrennau yn dod mewn i’w meysydd awyr nhw. So, felly, na—mae’n amhosibl i fi esbonio beth yw safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hwn, ond, unwaith eto, mae rhywbeth yn cael ei ddatganoli i’r Alban ond nid i Gymru, ac mae hynny, o egwyddor, yn annheg.
Amcangyfrifwyd yn ddiweddar, ar sail annibynnol, y byddai'r diffyg yng nghyllideb Cymru, tua £14.6 biliwn, neu 25 y cant o CMC—tua 100 gwaith yn fwy nag amcangyfrifon unrhyw drosglwyddiad i’r UE neu o'r UE. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gweld yr Alban fel y model, ond onid yw'n rhannu fy mhryder i, os, yn yr hirdymor, y byddwn yn parhau i ddilyn y trywydd datganoli treth, yn enwedig heb refferendwm, y gallai’r trosglwyddiad parhaus hwnnw gael ei beryglu?
Wel, ni chlywais ef yn argymell refferendwm yn yr Alban ar gyfer trosglwyddo pwerau llawer mwy yn yr Alban, ond dyma fy marn i: mae angen ailystyried system dreth y DU gyda system, er enghraifft, lle ceir elfen o'r system drethi sy'n darparu'r modd i ailddosbarthu arian ar draws y DU i le mae ei angen, gan sicrhau atebolrwydd lleol ar yr un pryd. Mae gennym ni rywbeth tebyg ar ffurf y dreth gyngor. Mae gennym ni rywbeth tebyg ar ffurf cynghorau cymuned. Mae'n eithaf arferol yn y rhan fwyaf o wledydd i gael elfen o dreth incwm a godir yn lleol. Ni ddylem ofni hynny yng Nghymru. Ond, yn sicr, ni fyddwn yn cefnogi cael system drethi gwbl hunangynhwysol yng Nghymru. Nid wyf yn meddwl y byddai hynny er budd ariannol Cymru.