Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 21 Mehefin 2016.
Wel, ni chlywais ef yn argymell refferendwm yn yr Alban ar gyfer trosglwyddo pwerau llawer mwy yn yr Alban, ond dyma fy marn i: mae angen ailystyried system dreth y DU gyda system, er enghraifft, lle ceir elfen o'r system drethi sy'n darparu'r modd i ailddosbarthu arian ar draws y DU i le mae ei angen, gan sicrhau atebolrwydd lleol ar yr un pryd. Mae gennym ni rywbeth tebyg ar ffurf y dreth gyngor. Mae gennym ni rywbeth tebyg ar ffurf cynghorau cymuned. Mae'n eithaf arferol yn y rhan fwyaf o wledydd i gael elfen o dreth incwm a godir yn lleol. Ni ddylem ofni hynny yng Nghymru. Ond, yn sicr, ni fyddwn yn cefnogi cael system drethi gwbl hunangynhwysol yng Nghymru. Nid wyf yn meddwl y byddai hynny er budd ariannol Cymru.