Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 21 Mehefin 2016.
Wel, mae ein hanes yn amlwg yn rhagorol, ac mae colegau fel Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n darparu addysg bellach ragorol mewn amrywiaeth o bynciau yn sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gwaith. Pa waith ydym ni’n ei wneud i sicrhau ein bod yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn mynd i fod eu hangen yn y dyfodol fel nad ydym yn gorfod dibynnu ar ddenu pobl o wledydd eraill a allai fod yn llawer tlotach na ni?