Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 21 Mehefin 2016.
Wel, un enghraifft, wrth gwrs, yw Twf Swyddi Cymru. Mae wedi bod yn hynod lwyddiannus, gyda chyfradd lwyddiant o dros 80 y cant o ran pobl ifanc yn mynd ymlaen i gyflogaeth, neu i gynlluniau addysg bellach neu uwch, wedi’u hariannu gan arian Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae’n gynllun sydd wedi helpu cymaint o bobl ifanc i gael gwaith. Dechreuad y cynllun hwnnw oedd i ni siarad â busnesau bach a chanolig eu maint a ddywedodd wrthym eu bod eisiau cyflogi pobl, ond na allent ddod o hyd i’r amser na'r arian i wneud hynny. Caniataodd Twf Swyddi Cymru iddyn nhw wneud hynny, a cheir llawer iawn o bobl ifanc mewn cyflogaeth oherwydd y cynllun hwnnw erbyn hyn, ac maen nhw’n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.