<p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:25, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwyf i'n bennaeth ar Lywodraeth yma, felly nac ydy, rwy’n derbyn yn llwyr y gallwn ni ffurfio Llywodraeth yma yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU. Ond, nid naill ai/neu yw'r cwestiwn, gan fod yr undebau llafur wedi bod yn gweithio gyda'u cydweithwyr ar draws gweddill Ewrop er mwyn sicrhau bod safonau cyffredin o hawliau i weithwyr ar draws holl wledydd Ewrop. A dyna’n sicr sut y dylai fod, oherwydd mae hynny'n golygu bod amddiffyniad i weithwyr ar draws yr UE, mae'n golygu nad oes gan un wlad fantais dros un arall oherwydd bod ganddi safonau is o ran iechyd a diogelwch, ac mae’n rhaid bod hynny, does bosib, er lles pawb. Nid wyf yn ymddiried yn etifeddion Margaret Thatcher i amddiffyn hawliau gweithwyr, a bod yn gwbl onest. Yn y pen draw, dylai pobl ofyn i'w hunain ar ochr pwy oedd y bobl hyn yn streic y glowyr—yr ochr anghywir. Y rhai ohonom ni a welodd ddinistrio ein cymunedau yng Nghymru gan Lywodraeth Geidwadol, dyna ddaeth â llawer ohonom i fyd gwleidyddiaeth: i sicrhau na fyddai’r math hwnnw o fandaliaeth economaidd fyth yn digwydd eto.