2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2016.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diogelwch a roddir i weithwyr Cymru o ganlyniad i’n haelodaeth o’r DU? OAQ(5)0070(FM)
Ers canol y 1970au, mae'r UE wedi chwarae rhan bwysig o ran diogelu pobl sy'n gweithio. Mae pob gweithiwr yn cael ei ddiogelu gan ystod o hawliau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith, cyfle cyfartal i ddynion a menywod, amddiffyniad rhag gwahaniaethu ac, wrth gwrs, cysoni amodau gwaith ledled Ewrop, nid nad oes gan un wlad fantais dros un arall dim ond oherwydd bod ei harferion iechyd a diogelwch yn israddol.
Brif Weinidog, ym 1975, fe wnaethom ni ymuno â'r UE. Ym 1977, cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb i ddiogelu gweithwyr sy'n trosglwyddo o un ymgymeriad i un arall, a ddaeth, ym 1981, yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, sydd wedi rhoi diogelwch i gannoedd o filoedd o weithwyr yng Nghymru dros y sawl degawd hynny. Yn wir, pan ddaeth i’r amlwg nad oedd Llywodraeth Dorïaidd yn gweithredu’r gyfarwyddeb yn briodol, llwyddodd Unsain, undeb y sector cyhoeddus, i fynd i Lys Cyfiawnder Ewrop a chael gorchymyn i roi'r diogelwch priodol hwnnw i’r cannoedd o filoedd o weithwyr hynny. Pan ddaw i ddiogelu hawliau gweithwyr, pwy fyddech chi'n ymddiried ynddynt fwyaf: yr Undeb Ewropeaidd, Michael Gove, Nigel Farage ynteu Boris Johnson? [Chwerthin.]
Nid y tri olaf, os caf i ddweud hynny. Mae’r bobl hyn o draddodiad sy'n mynnu y dylai fod mwy o hyblygrwydd, fel y maen nhw’n ei weld, yn y farchnad lafur, sy'n golygu ei bod yn haws diswyddo pobl, gwneud trefniadau gweithio dros dro, contractau dim oriau. Felly, na, nid wyf yn rhannu unrhyw fath o ffydd y byddant yno i amddiffyn hawliau gweithwyr. Rydym ni’n gwybod, yn enwedig oddi wrth yr economegwyr sy'n cefnogi'r ymgyrch i adael, eu bod yn gweld dyfodol y DU fel un lle nad oes bron dim hawliau i bobl sy'n gweithio, lle nad yw materion fel iechyd a diogelwch yn cael eu hystyried â’r un gofal ag y maen nhw nawr, a lle mae rheoliadau amgylcheddol yn cael eu rhoi o’r neilltu yn bennaf. Felly, rydym ni’n mynd yn ôl i’r dyddiau yn y 1980au pan gafodd Prydain ei diraddio’n sylweddol yn amgylcheddol. Nid dyna’r dyfodol yr ydym ni ei eisiau. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni amgylchedd—amgylchedd gwaith ac amgylchedd ffisegol—y mae pobl eisiau ei fwynhau a’i barchu.
Brif Weinidog, pwy ydych chi'n credu gyfrannodd fwy at ddiogelu gweithwyr yn y DU? Ai mudiadau’r undebau llafur a’r blaid Lafur, neu ai’r UE? Ac a yw ymrwymiad eich Llywodraeth i aros yn yr UE yn gyfaddefiad bod Llafur yn annhebygol o ffurfio Llywodraeth yn y DU fyth eto?
Wel, rwyf i'n bennaeth ar Lywodraeth yma, felly nac ydy, rwy’n derbyn yn llwyr y gallwn ni ffurfio Llywodraeth yma yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU. Ond, nid naill ai/neu yw'r cwestiwn, gan fod yr undebau llafur wedi bod yn gweithio gyda'u cydweithwyr ar draws gweddill Ewrop er mwyn sicrhau bod safonau cyffredin o hawliau i weithwyr ar draws holl wledydd Ewrop. A dyna’n sicr sut y dylai fod, oherwydd mae hynny'n golygu bod amddiffyniad i weithwyr ar draws yr UE, mae'n golygu nad oes gan un wlad fantais dros un arall oherwydd bod ganddi safonau is o ran iechyd a diogelwch, ac mae’n rhaid bod hynny, does bosib, er lles pawb. Nid wyf yn ymddiried yn etifeddion Margaret Thatcher i amddiffyn hawliau gweithwyr, a bod yn gwbl onest. Yn y pen draw, dylai pobl ofyn i'w hunain ar ochr pwy oedd y bobl hyn yn streic y glowyr—yr ochr anghywir. Y rhai ohonom ni a welodd ddinistrio ein cymunedau yng Nghymru gan Lywodraeth Geidwadol, dyna ddaeth â llawer ohonom i fyd gwleidyddiaeth: i sicrhau na fyddai’r math hwnnw o fandaliaeth economaidd fyth yn digwydd eto.