Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 21 Mehefin 2016.
Brif Weinidog, rwy’n sylwi mai un o'r eitemau ar yr agenda ar gyfer cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig oedd y gefnogaeth sydd ei hangen ar ofalwyr ledled Cymru ac, yn enwedig, bod gofalwyr ifanc a hŷn yn cael eu hystyried. A allwch chi ddweud wrthyf: a wnaed unrhyw gynnydd ar gytundeb trawslywodraethol, o ran dull o ddarparu hawliau gwarantedig o seibiant i ofalwyr? Mae hyn yn rhywbeth a gynigiwyd gan fy mhlaid i, wrth gwrs, yn ein maniffesto cyn etholiadau Cynulliad Cymru. Pan fyddwch chi’n siarad â gofalwyr, mae un peth y maen nhw i gyd yn gofyn amdano, sef seibiant ar adegau i adennill eu hegni.