Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 21 Mehefin 2016.
Rwy’n gwerthfawrogi hynny, wrth gwrs, ac mae'r rhain yn faterion yr ydym ni’n eu hystyried. Gofynnodd yn benodol am y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig; nid yw'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn penderfynu ar bolisi cyffredin, ond mae'n lle defnyddiol i ddeall yr hyn y mae eraill yn ei wneud. Mae'n fath o Gomisiwn Ewropeaidd bach—bydd yn cael ei ddiddymu yr wythnos nesaf, gewch chi weld, nawr fy mod i wedi dweud hynna. Mae'n gorff lle gall Llywodraethau ddod at ei gilydd i ddeall yr hyn sy'n cael ei wneud mewn gweinyddiaethau eraill a dysgu. Mae'n rhaid i ni weld beth sy'n gweithio mewn gwledydd eraill, yn enwedig os oes ganddynt ddemograffig tebyg i ni. Felly, dyna’r hyn y mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ei wneud, ond roedd yn ddiddorol clywed yr hyn sy'n cael ei wneud yn y gwledydd eraill o ran gwella hawliau gofalwyr.