Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas. Credaf yr hoffem hefyd, rwyf yn siŵr, ddiolch am ymateb cyflym yr heddlu, sydd wedi cysylltu â phob un ohonom rwyf yn siŵr, ond hefyd am ymateb cyflym y Llywydd a'i swyddogion o ran y cyfleoedd gyda'r heddlu i gael sesiynau i holl Aelodau'r Cynulliad ac i sicrhau ein bod yn ddiogel a’n bod yn gallu parhau i gynrychioli ein hetholwyr yn y ffordd yr ydym yn credu sydd fwyaf priodol. Yn wir, mae llawer ohonom wedi cynnal cymorthfeydd dros y penwythnos, ac wedi cael nid yn unig gefnogaeth a gwyliadwriaeth gan yr heddlu, ond hefyd gefnogaeth gref iawn gan ein hetholwyr yr ydym yn barod ac ar gael i’w cyfarfod, ond mae’n rhaid inni ddysgu’r gwersi trasig hynny o ran yr hyn a ddigwyddodd mor ddramatig, mor ddifrifol ac mor greulon ddydd Iau diwethaf i Jo Cox.
Felly, ynglŷn â’ch pwyntiau am y ffrwd o gasineb a gwenwyn, credaf ein bod mewn gwirionedd wedi ymateb iddynt yr wythnos diwethaf, oni wnaethom, o ran ein munud o dawelwch a’n hymateb i'r saethu yn Orlando hefyd? Ymatebais bryd hynny hefyd o ran y ffaith bod angen monitro, adlewyrchu a chryfhau mewn sawl ffordd ein polisïau o ran mynd i'r afael â throseddau casineb, wrth gwrs.
Rydych yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol, a chredaf fod rhai ohonom yn y Siambr hon eisoes wedi profi effaith hynny dros yr wythnos ddiwethaf, a chredaf fod angen edrych ar hyn yn ofalus iawn fel Cynulliad, a hefyd yn y Llywodraeth. Gwn mai dyna lle y bydd y Gweinidog dros gymunedau a phlant yn bwrw ymlaen â hyn o ran cwrdd â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu. A bydd yn gwneud datganiad heddiw ynglŷn â hynt darn pwysig iawn o ddeddfwriaeth o ran y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dyma ddimensiwn cyfan y mae angen inni ganolbwyntio arno, yn enwedig o ran y ffyrdd y gallai effeithio'n negyddol ar fenywod.
Mae eich pwyntiau ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn atebol ac ar gael fel Gweinidogion i'r Cynulliad hwn yn bwysig iawn. Wrth gwrs, byddwch wedi gweld y datganiad ysgrifenedig ynglŷn â diwygio’r cwricwlwm gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac wrth gwrs roedd hi’n hapus iawn i gyflwyno’r datganiad ysgrifenedig hwnnw mor gyflym a phrydlon â phosibl yn ei swydd newydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweld cyfleoedd, a gwn y bydd y Llywydd yn chwilio am y cyfleoedd hynny hefyd, i glodfori’r buddugoliaethau mawr hyd yma, a’r fuddugoliaeth derfynol, yr ydym i gyd yn edrych ymlaen ati, i Gymru, wrth inni ddymuno’n dda i’n tîm ddydd Sadwrn ym Mharis. Credaf hefyd, o ran pêl-droed, fod pob lleoliad Cadw ar agor am ddim y dydd Sul hwn; mae'n ddydd Sul dathlu o ganlyniad i’n llwyddiant hyd yma. Wrth gwrs, yn ogystal â thristwch a gwylnosau, rydym wedi gallu clodfori ein llwyddiant ym myd y campau ar lawer achlysur yma yn y Senedd, ac rwyf yn siŵr y byddwn yn parhau i wneud hynny gan ganolbwyntio ar bêl-droed yn benodol.