Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 21 Mehefin 2016.
Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol fod adroddiad diweddar gan y BBC wedi canfod bod 3,000 o blant ar eu pen eu hunain wedi cyrraedd y DU y llynedd yn ceisio lloches, ac roeddent yn aml yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Canfu'r adroddiad fod o leiaf 891 o’r plant hynny ar eu pen eu hunain a oedd yn ceisio lloches wedi diflannu ar ôl cyrraedd y DU yn ystod y tair blynedd diwethaf—421 o'r rheini yn dal ar goll, ac ofnir bod llawer o'r rhai hynny sydd ar goll wedi cael eu masnachu gan droseddwyr i weithio mewn puteindai, i gynorthwyo mewn ffatrïoedd canabis, ac i weithio mewn cartrefi preifat. Mae ymgyrchwyr dros ffoaduriaid yn dweud nad yw anghenion plant sy’n cael eu masnachu, neu'r rhai sydd mewn perygl o gael eu masnachu, yn aml yn cael eu diwallu ar ôl cyrraedd y DU, ac nad oes gan awdurdodau yr adnoddau i’w hamddiffyn a’u diogelu’n ddigonol. Roedd penodi’r cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth yma yng Nghymru yn benodiad allweddol a ddangosodd ein hymrwymiad i ddarparu ar gyfer y plant hyn. Yr hyn yr wyf yn awr yn ei geisio yw sicrwydd bod awdurdodau lleol Cymru ac asiantaethau eraill sydd yn amlwg â chyfrifoldeb dros blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yma yng Nghymru yn cymryd camau angenrheidiol i gyflawni’r rhwymedigaethau hynny ac i amddiffyn y plant hyn sy’n hynod agored i niwed rhag mynd i ddwylo troseddwyr a gangiau.