Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 21 Mehefin 2016.
Mae Joyce Watson wedi codi cwestiwn pwysig iawn, a chwestiwn sydd, wrth gwrs, yn effeithio arnom ni yng Nghymru. Gwn fod awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn, ac wrth gwrs, mae cydlynu a chefnogaeth gan y cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, ac, yn wir, gan Lywodraeth Cymru hefyd, o ran cyfrifoldeb gweinidogol. Ond rydym yn gwybod, yng Nghymru, fod y gefnogaeth i’r plant hynny sydd ar eu pen eu hunain a’r croeso sydd iddynt, a'r ffyrdd yr ydym yn brwydro yn erbyn masnachu pobl, yn bwysig ac yn derbyn sylw.