Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch ichi, Weinidog, am eich datganiad. Er y byddwch efallai’n falch o wybod na fyddaf yn eich cysgodi o hyn ymlaen, o ystyried y gwaith yr wyf wedi ei wneud gyda chi a phobl eraill cyn hyn, credaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i siarad heddiw am y gwaith yr ydym wedi'i wneud a hefyd y gwaith y mae angen inni ei wneud. Oherwydd, wrth gwrs, roeddech yn eistedd ar y pwyllgor gyda ni o’r blaen, yn y Cynulliad diwethaf, ac mae llawer o argymhellion yr adroddiad hwnnw yn eich datganiad, rwyf yn falch o weld, ac yn dod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth. Er enghraifft, byddai’n dda gennyf wybod, roeddech yn sôn eich bod yn mynd i roi manylion inni ynglŷn â’r fforwm darlledu annibynnol, ond hoffwn wybod sut yr ydych yn bwriadu gweld aelodaeth y pwyllgor, oherwydd, wrth gwrs, bu’n rhaid i’r Sefydliad Materion Cymreig wneud cais rhyddid gwybodaeth i Lywodraeth Cymru i gael gwybod beth oedd wedi digwydd i'r panel cynghori. Nid ydym am fod yn y sefyllfa honno eto; rydym am gael grŵp annibynnol cadarn a chryf o bobl, nid y rhai arferol yn unig ond pobl sydd efallai'n gallu rhoi persbectif newydd i'r cyfryngau yng Nghymru, fel y gall y grŵp hwnnw roi gwybodaeth i chi ac i Aelodau'r Cynulliad, ac er mwyn gallu gwella’r gwaith craffu hwnnw o ganlyniad. Felly, hoffwn gael ychydig mwy o fanylion ynghylch sut y bydd yn adrodd, sut y byddant yn cael eu dewis ar gyfer y grŵp hwn a sut y caiff eu gwaith ei roi iddynt yn y dyfodol.
Nodwn y byddwch yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Rwyf yn siŵr y byddwch yn cyflwyno achos iddo o ran y sefyllfa ariannol sydd ei hangen er mwyn gwella’r cymorth ariannol i’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yng Nghymru, fel yr eglurwyd gan Aelodau'r Cynulliad ym mhob rhan o’r Siambr hon yn ddiweddar mewn llythyr at Tony Hall. Felly, a wnewch chi egluro beth yn union y byddwch yn ei ddweud, ac a fyddwch yn pwyso am y cyllid ychwanegol blynyddol hwnnw o £300 miliwn i’r BBC yng Nghymru?
Fy nghwestiwn arall oedd hyn: rwyf yn cytuno’n llwyr â’r ffaith eich bod yn galw am olygydd comisiynu drama sydd wedi’i leoli yng Nghymru, ond hoffwn weld y math hwnnw o rwydwaith neu dîm ar gyfer y broses gomisiynu yn dod i Gymru hefyd, oherwydd, fel y byddwch yn gwybod ar ôl eistedd ar y pwyllgor, clywsom gan Equity fod actorion yn dal i orfod mynd i Lundain am glyweliadau ar gyfer rhaglenni sy'n cael eu gwneud yng Nghymru. Mae'n hurt eu bod i gyd yn ymgynnull ar drenau sy’n mynd i Lundain pan allent—yr actorion—fod yn cael y clyweliadau hynny yma yng Nghymru. Felly, mae angen nid yn unig y gwaith comisiynu drama yma yng Nghymru ond mae angen y timau cynhyrchu sydd ynghlwm wrth y prosesau hynny hefyd.
Nodaf yn eich adroddiad—eich datganiad, mae’n ddrwg gennyf—y dylid cynyddu darpariaeth ITV Cymru Wales, yn enwedig o ystyried ei sefyllfa ariannol iach. Tybed beth arall y gallwch ei ddweud wrthym am sut neu ym mha ffordd y dylai’r ddarpariaeth honno gynyddu.
Bydd yn rhaid imi ddatgan buddiant mewn perthynas â Channel 4 gan fod fy mrawd yn newyddiadurwr ar raglen newyddion Channel 4, ond credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd fel Aelodau Cynulliad i geisio eu hannog i weld bod rhinwedd mewn straeon yma yng Nghymru, sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, yn hytrach, efallai, na chanolbwyntio ar Loegr fel y maent yn ei wneud yn aml iawn. Ni fydd ef yn hapus iawn fy mod yn dweud hynny—mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.]
Hefyd, hoffwn glywed eich barn am strwythurau pwyllgorau’r Cynulliad. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn clywed gan Weinidog y Llywodraeth, oherwydd sut ydych chi'n gweld eich swyddogaeth, felly, o ran bod yn atebol i’r sefydliad hwn o safbwynt y cyfryngau yng Nghymru, oherwydd rydym yn awyddus i ddangos, hyd yn oed os nad oes gennym bwerau dros ddarlledu, ein bod wedi dangos bod gennym y statws a'r gefnogaeth i allu dwyn amrywiol ddarlledwyr i gyfrif.
Ac mae fy nghwestiwn olaf ynghylch S4C. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ailadrodd y dylai gadw ei hannibyniaeth, a sicrhau bod hynny bob amser yn rhan o unrhyw drafodaeth yr ydych yn ei chael â’r sianel fel Gweinidog.