Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr iawn, a diolch ichi am eich geiriau caredig ar ddechrau eich sylwadau. A gaf i ddweud, Bethan, fy mod wedi mwynhau’r sgyrsiau a gawsom yn y pwyllgor yn gynharach eleni, a'r llynedd hefyd? Credaf ein bod bob amser wedi canfod bod llawer o gonsensws mewn gwahanol rannau o'r Siambr hon ar ddarlledu ac ar y cyfryngau yn gyffredinol, a sut y byddai’r lle hwn yn hoffi mynd i'r afael â'r materion hynny. Cofiaf pan oeddwn yn gadeirydd y Pwyllgor Darlledu mewn Cynulliad blaenorol fod llawer iawn o gonsensws ymysg, rwyf yn credu, y pedwar neu bump ohonom ar y pwyllgor hwnnw ynglŷn â’r ffordd ymlaen, a pharhaodd y consensws hwnnw hyd at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Christine Chapman ychydig cyn ein hetholiad diwethaf.
A gaf i ddweud hyn? Rwyf yn croesawu’n fawr iawn y cynigion i sefydlu pwyllgor yn y lle hwn i ymchwilio i'r materion hyn, i’m dwyn i fel Gweinidog i gyfrif, ond hefyd y darlledwyr, ac i sicrhau bod y dadleuon a'r trafodaethau, sydd yn rhy aml yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. Mae angen inni sicrhau bod cydbwysedd priodol rhwng yr hyn a allai gael ei ystyried, neu a fyddai’n cael ei ystyried, yn bwysau gormodol gan y Llywodraeth ar ddarlledwyr i weithredu mewn ffordd benodol, a sefydliad democrataidd yn dwyn y darlledwyr hynny i gyfrif. Felly, credaf fod swyddogaeth bwysig iawn i’r lle hwn o ran y lefel honno o atebolrwydd. Nid wyf erioed wedi ei chael yn anodd sicrhau bod darlledwyr, o fewn strwythurau cyffredinol y Deyrnas Unedig, lle nad yw darlledu wedi'i ddatganoli, yn cydnabod y dylent fod yn atebol i Seneddau’r Deyrnas Unedig o ran materion portreadu a materion sy’n ymwneud â chynnwys, oherwydd y materion diwylliannol ehangach y cyfeirir atynt yno a hefyd faterion ehangach y Deyrnas Unedig lle mae gan y Senedd hon a Seneddau eraill hawl a buddiant priodol. Felly, gobeithiaf y byddaf fel Gweinidog, pan fyddaf yn mynd ar drywydd y rhaglen lywodraethu, nid yn unig yn cael fy nal i gyfrif gan bwyllgorau'r lle hwn, ond hefyd y byddwn yn gweithio mewn modd mwy cydlynol wrth sicrhau bod pobl eraill yn atebol am yr hyn y maent yn ei ddarparu i Gymru.
O ran y fforwm cyfryngau annibynnol—ac rwyf yn dweud ei fod yn fforwm cyfryngau yn hytrach na dim ond yn fforwm darlledu—mae'n bwysig bod gennym leisiau annibynnol sy'n siarad ag awdurdod, ar sail gwybodaeth, ac sy’n siarad yn agored am y cyngor y maent yn ei ddarparu i mi fel Gweinidog. Rwyf yn gwahodd pob Aelod y prynhawn yma i ysgrifennu ataf gydag unrhyw syniadau sydd ganddynt ar gyfer sut y byddai’r fforwm hwnnw’n gweithredu ac efallai hyd yn oed y bobl yr hoffent eu gweld yn rhan ohono—wn i ddim, mater i chi yw hynny. Ond, yn sicr, fy mwriad i yw y bydd hyn yn gweithredu mewn ffordd gwbl agored a thryloyw. Nid yw’n fwriad i hwn fod yn fforwm sy’n osgoi penderfyniadau anodd neu’n fforwm sy'n rhoi cyngor a fydd ddim ond yn cael ei weld gan y Gweinidog yn amodol ar gais rhyddid gwybodaeth. Nid wyf am ddilyn y trywydd hwnnw. Yr hyn yr wyf am ei weld yw trafodaeth fwy agored, a thryloyw sy’n seiliedig ar wybodaeth ynghylch dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.
Un o'r pethau yr ydym wedi ei weld, lle y bo llawer ohonom wedi bod yn trafod rhan y cyfryngau mewn digwyddiadau diweddar ac yn enwedig o ran y refferendwm sy’n digwydd yn nes ymlaen yr wythnos hon—credaf fod swyddogaeth gwbl sylfaenol i’r cyfryngau mewn cymdeithas fodern, agored, gwybodus a democrataidd. Mae hynny'n golygu fod gennym gyfrifoldeb, fel gwleidyddion ac fel cynrychiolwyr etholiadol, ond bod gan y rhai hynny sydd â grym drwy'r cyfryngau gyfrifoldebau hefyd, ac mae angen iddynt gydnabod bod angen iddynt fod yn atebol am eu gweithredoedd a’r penderfyniadau a wneir ganddynt.
Edrychaf ymlaen at fy nghyfarfod â John Whittingdale, yr Ysgrifennydd Gwladol. Byddaf yn nodi’r pwyntiau yr ydych wedi'u hamlinellu, ac wrth gwrdd â’r BBC hefyd. Credaf fod angen i'r BBC gydnabod mai un peth yw dweud ei bod yn awyddus i gynyddu'r ddarpariaeth Saesneg yng Nghymru, ond y mae'n rhaid cyflawni hynny gyda'r cyllid sy'n sicrhau bod y rhaglenni yn cael eu darparu a bod gwerthoedd cynhyrchu yn cael eu gwella ac nid eu cwtogi o ganlyniad i’r penderfyniadau ariannol hynny.
Credaf y byddwn yn mynd ychydig ymhellach nag yr ydych efallai wedi’i awgrymu o ran rhai o'r newidiadau strwythurol sydd eu hangen ar y BBC. Yn amlwg, materion i'r BBC yw’r rhain, ac nid i wleidyddion, ond hoffwn i BBC Cymru gael lefelau o awdurdod ac atebolrwydd sy'n golygu y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch ffurf gwasanaethau'r BBC yng Nghymru a gwasanaethu Cymru. Mae hynny’n fwy na dim ond penderfynu pa raglen sy’n cystadlu â 'Coronation Street'; mae'n effeithio ar ffurf yr amserlen ond hefyd ar yr amserlen ei hun. Dyna'r math o benderfyniad rheoli yr hoffwn ei weld, ond hoffwn hefyd weld newid diwylliant o fewn y BBC, a chredaf fod hynny’n gwbl hanfodol.
Soniasoch am ITV, Channel 4 ac S4C. Mae'r pwyntiau a wnawn am y BBC yr un mor wir ar gyfer pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ac mae'n destun siom arbennig—. Mae eich brawd, wrth gwrs, yn newyddiadurwr ardderchog, uchel ei barch, sy’n gweithio i Channel 4, ond nid ydym yn gweld llawer arno yng Nghymru, yn anffodus, a hoffem weld mwy arno yng Nghymru. Mae Channel 4 yn cynhyrchu darllediadau newyddion rhagorol, nad oes lle rheolaidd iddynt yn aml ar ddarlledu prif ffrwd, yn enwedig ar yr agenda ryngwladol a materion datblygu o ran materion datblygu byd-eang. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes ganddi gyfrifoldeb i drethdalwyr y Deyrnas Unedig a Chymru.