Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn ddiolchgar, hefyd, am eich sylwadau caredig iawn. Nid wyf fel arfer yn gysylltiedig ag ymateb cyhyrog mewn unrhyw faes polisi. Rwyf fel arfer yn cael fy nghysylltu â phaned o de a chacen, ond rwyf yn sicr yn gobeithio y byddwn yn gallu cael sgwrs â'r BBC sy’n ddeallus ac yn seiliedig ar barch at yr ymrwymiadau yn ei siarter a’i chenhadaeth, ond parch hefyd at bobl sy'n talu ffi'r drwydded yng Nghymru ac ymrwymiad y BBC i'r Deyrnas Unedig gyfan. Mewn sawl ffordd, yn amlwg, fel Senedd yn y lle hwn, rydym yn sôn am y materion hyn o safbwynt Cymru, ond fy nyletswydd i yw sicrhau bod y BBC yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn ddarlledwr Prydeinig, ac nid dim ond yn ddarlledwr ar gyfer y dosbarth canol yn ardal yr M25. Dywedaf hynny’n glir iawn, oherwydd er ein bod yn pryderu yma ynglŷn â’r portread o Gymru a gwariant yng Nghymru, gallai llawer o'r materion y byddwn yn eu codi yma gael eu codi gan bobl sy’n talu ffi'r drwydded mewn mannau eraill, yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon hefyd. Dyna pam yr wyf yn dweud dro ar ôl tro fod angen i’r BBC, weithiau, gydnabod bod yn rhaid wrth newid diwylliant yn y BBC, nid dim ond symud cyfleusterau y tu allan i Lundain, ond symud meddyliau allan o Lundain, hefyd, ac rwyf yn gobeithio y bydd hynny’n digwydd ac y bydd cydnabyddiaeth i hynny.
Roedd y gwaith a wnaethoch, Lee, gyda'r Sefydliad Materion Cymreig, yn torri tir newydd a chredaf ei fod wedi cyfrannu'n aruthrol at y gwaith y cyfeiriodd Bethan ato—y gwaith a wnaethom fel pwyllgor—a’i fod hefyd wedi ein galluogi i gael y mathau o sgyrsiau yr oeddem yn gallu eu cael yn y pwyllgor hwnnw. Rwyf yn gobeithio y byddai fforwm cyfryngau y gallem ei greu yn y Llywodraeth yn cyflawni swyddogaeth debyg ac yn gwneud cyfraniad tebyg i’r ddadl y mae angen inni ei chael yn y dyfodol yng Nghymru. Nid oes cyfyngiad, os mynnwch, ar y math o bobl y byddem yn hoffi eu cael yn y fforwm hwnnw, ac, yn sicr, rwyf yn cytuno â chi fod y prifysgolion yn rhan bwysig o hyn a bod angen iddynt fod yn rhan bwysig o’r sgwrs a’r drafodaeth hon yn y dyfodol.
Mae'r pwyntiau—rwyf am ddirwyn i ben ar ôl y sylw hwn—a wnewch am wariant yn gwbl sylfaenol i gyflawni'r hyn yr hoffem ei weld. Mae'n destun dathlu bod gennym Borth y Rhath gyferbyn â ni yma ym Mae Caerdydd, ein bod yn gweld drama’n cael ei chynhyrchu yma yng Nghymru, wedi’i hariannu gan y BBC ac wedi’i chefnogi gan y BBC. Fodd bynnag—fodd bynnag—fel rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig, mae'n gwbl annerbyniol nad yw'r BBC yn portreadu bywyd yng Nghymru gyfoes fel rhan o'i hamserlen, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'n gwbl annerbyniol. Mae'r BBC wedi cydnabod bod hynny’n annerbyniol, a mater i’r BBC yn awr yw unioni hynny. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i’r BBC sicrhau bod cyllid ar gael i wneud hynny a bod cyllid yng Nghymru i wneud rhaglenni ar gyfer y gynulleidfa yng Nghymru, ond hefyd fod penderfyniadau’n cael eu gwneud a bod arian ar gael i wneud rhaglenni yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd y DU yn ogystal. Yr hyn yr ydym am ei weld yw bod y BBC yn cyflawni ei swyddogaeth fel darlledwr Prydeinig ac un sy'n cynrychioli ac yn cydnabod bywyd ym mhob rhan o’r ynysoedd hyn heddiw.