Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r data arolwg iechyd Cymru unwaith eto yn tynnu sylw at yr angen i wella negeseuon iechyd cyhoeddus. Wrth gwrs, nid yw’r heriau o lefelau gordewdra cynyddol yn unigryw i Gymru. Fodd bynnag, mae'n gwbl syfrdanol i ddysgu bod bron 60 y cant o oedolion Cymru dros eu pwysau neu'n ordew. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda llawer o ysgolion yn gwerthu eu meysydd chwarae, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar gyfraddau gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc? Mae gennym lawer o raglenni lle'r ydym yn annog plant i chwarae, plant i fod yn weithgar a phlant i gerdded mwy, ond mae'n rhaid i ni roi’r cyfleusterau iddynt.
O ran ysmygu, mae'n newyddion da bod nifer yr ysmygwyr yn parhau i ostwng. Roeddwn yn falch o weld bod yr arolwg, am y tro cyntaf, wedi cynnwys data ar e-sigaréts, a bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn rhoi sylw i’r dystiolaeth. Mae e-sigaréts yn un o'r cymhorthion mwyaf effeithiol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu ym mlwch arfau’r ysmygwr. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda thranc arolwg iechyd Cymru, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu tystiolaeth am y defnydd o e-sigaréts?
Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn siomedig bod arolwg iechyd Cymru wedi cael ei derfynu gan Lywodraeth Cymru. Mae ein gwrthwynebiadau yn ymwneud â’r hyn sy’n ei ddisodli, sef arolwg cenedlaethol Cymru. Nid ydym yn credu, gyda'i maint sampl llai, y bydd y data mor gadarn. Roedd arolwg iechyd Cymru, drwy gydol pob blwyddyn, yn cofnodi barn tua 15,000 o oedolion a 3,000 o blant, gyda lleiafswm o 600 o oedolion o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd arolwg cenedlaethol Cymru ond yn cael barn tua 12,000 o oedolion yn unig. Mae'r arolwg yn cael ei gynnal yn bennaf yn ystod yr haf, ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw isafsymiau penodol ar gyfer casglu data gan bob awdurdod lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ein sicrhau ni y bydd y data a gesglir ar iechyd yn y dyfodol, mor fanwl a chadarn ag a gasglwyd yn arolwg iechyd Cymru? Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu barn pobl ifanc, sydd â hawl, fel sydd gennym ni, i ddweud eu dweud ar ein GIG ni? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn 2014 i geisio barn defnyddwyr arolwg iechyd Cymru. Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn gefnogol i'r arolwg. Yn wir, roedd yr unig feirniadaeth a gafwyd yn ymwneud â phrydlondeb rhyddhau'r data. Gyda'r pwyntiau hyn mewn golwg, a allwch chi roi’r rheswm diweddaraf inni pam y gwnaed y penderfyniad i roi terfyn ar yr arolwg? Diolch. Diolch yn fawr.