Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch i chi am y pwyntiau a'r cwestiynau penodol hynny. O ran gwerthu meysydd chwarae ysgolion, mae’r Llywodraeth hon yn un sy'n buddsoddi yn seilwaith ein hystadau ysgol, ac rydw i wedi ymweld â nifer eang o ardaloedd lle'r ydym mewn gwirionedd yn gweld gwelliant yng ngallu pobl i ddefnyddio mannau awyr agored yn benodol ar gyfer gweithgarwch corfforol a hamdden. Does dim esgus i’w roi am ddiffyg gweithgarwch corfforol ymysg plant oedran ysgol yn nhermau meysydd chwarae ysgolion ar hyn o bryd. Rwyf wir yn meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yn gadarnhaol yn y ffordd y mae’r cwricwlwm yn gweithio a'r ffordd y mae teuluoedd yn gweithio ar gyfer ysgolion, ac â’r neges ehangach sydd gennym am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol a hamdden, a chydnabod nad yw’n broblem i ysgolion yn unig. Ar y cyfan, mae’n broblem fod y rhan fwyaf o'r gwersi hyn am fywyd yn cael eu dysgu y tu allan i'r ysgol, ac mae'n ymwneud â’r gweithio hwnnw ochr yn ochr â'r teulu i ddeall effaith, effaith gadarnhaol, gweithgarwch corfforol a hamdden.
Rydw i wedi ymdrin â'r mater am e-sigaréts ac rydw i wedi bod yn glir iawn: byddwn yn dal i adolygu’r dystiolaeth, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwch wedi sylwi yn fy natganiadau mai ychydig dan chwech o bob 10 defnyddiwr e-sigaréts sydd yn ysmygwyr hefyd. Felly, mae angen inni ddeall, os oes perthynas rhwng e-sigaréts â rhoi'r gorau iddi, ac os nad oes, mae angen inni ddeall hefyd beth yw’r effaith hirdymor ar iechyd pobl o ddefnyddio e-sigaréts. Mae hynny'n rhan, rwy’n meddwl, o’r hyn y mae hyd yn oed y rhai a oedd yn gwrthwynebu mesurau'r Bil iechyd cyhoeddus blaenorol ar e-sigaréts yn pryderu amdano: y ffordd y cafwyd tystiolaeth eithaf clir bod rhai gweithgynhyrchwyr e-sigaréts yn targedu pobl ifanc yn y ffordd yr aethpwyd ati i farchnata’r cyflasau. Mae materion real a difrifol i ni eu hystyried yma, felly gadewch i ni beidio ag esgus na ddylem wneud hynny. Ond fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn ystyried y dystiolaeth ar y defnydd o e-sigaréts a'u heffaith.
O ran yr arolwg cenedlaethol a dod ag arolwg iechyd Cymru i ben yn benodol, rydym yn cymryd barn ar gael ffordd fwy effeithlon o gynnal gwybodaeth a deall yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei feddwl ac yn ei wneud. Nid wyf yn meddwl y gallech chi ddisgrifio arolwg cenedlaethol gyda gwybodaeth fanwl am fwy na 12,000 o oedolion fel rhywbeth nad yw’n gadarn ac o ansawdd uchel. Yn sicr ein disgwyliad yw y bydd gennym arolwg cenedlaethol cadarn ac o ansawdd uchel. Os cewch gyfle byth—dwi ddim yn gwybod ai cyfle yw'r gair iawn—ond, os cewch gyfle byth i siarad ag un o ystadegwyr Llywodraeth Cymru, rwy’n credu y byddwch yn gweld bod ganddynt ddiddordeb mawr yn ansawdd eu data a gallant siarad â chi yn hirfaith. Byddwn yn hapus iawn i drefnu i chi gael sesiwn hir iawn gydag un o ystadegwyr Llywodraeth Cymru fel y gallant fynegi eu barn am yr arolwg cenedlaethol os ydych wir yn poeni am ei effaith a'i ddefnyddioldeb ar gyfer deall ymddygiadau iechyd yn y gorffennol a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym am ddyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus.