Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 22 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r strategaeth hinsawdd hefyd yn gosod targedau ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ynni yn ein cartrefi. Mae rhan o’r dull o gyflawni hyn yn cynnwys rhoi cladin allanol ar rai o’r adeiladau sy’n cael eu defnyddio’n eang, ond hefyd ar stoc a adeiladwyd cyn 1919, sy’n adeiladau bloc solet neu waliau solet yn bennaf. Mae’r cladin allanol yn ei gwneud hi’n bosibl i’r eiddo hwnnw ddefnyddio ynni’n effeithlon, ond gallai hefyd gyfyngu ar allu’r eiddo hwnnw i anadlu, sy’n achosi anawsterau. A wnewch chi gomisiynu ymchwil ar effaith y cladin allanol ar y mathau hyn o adeiladau, fel y gallwn sicrhau nad yw’n achosi problemau hirdymor i ni, ond yn hytrach ei fod yn rhoi manteision hirdymor i ni?