Mercher, 22 Mehefin 2016
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â rôl prosiectau ynni cymunedol fel rhan o strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0014(ERA)[W]
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau sy’n cael eu cymryd i leihau’r risg o lifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0005(ERA)
Rwy’n galw nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg? OAQ(5)0002(ERA)[W]
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar sicrhau bod amgylchedd ffisegol Cymru yn agored i bawb? OAQ(5)0008(ERA)
5. Sut y bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn gwella’r amgylchedd lleol? OAQ(5)0006(ERA)
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa mor bwysig yw cymorthdaliadau cyhoeddus i ffermwyr Cymru? OAQ(5)0009(ERA)
7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynllun datblygu gwledig? OAQ(5)0012(ERA)[W]
8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal lefelau ansawdd aer? OAQ(5)0010(ERA)
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddulliau Llywodraeth Cymru o atal llifogydd yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0007(ERA)
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0011(ERA)
11. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad pan lifodd biswail i lednant afon Taf yn sir Gaerfyrddin ym mis Mai, gan ladd 230 o bysgod? OAQ(5)0016(ERA)
13. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau llygredd traffig mewn ardaloedd gwledig? OAQ(5)0013(ERA)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ran dyfodol mentrau adfywio cymunedol pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0013(CC)
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â deddfwriaeth yn ymwneud â chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol? OAQ(5)0012(CC)[W]
Rwy’n galw yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, yr wythnos yma, llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch effaith newidiadau i nawdd cymdeithasol ar gymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0001(CC)
4. Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0016(CC)
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(5)0008(CC)
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y ddarpariaeth Dechrau’n Deg yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0010(CC)
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi yng Nghaerffili? OAQ(5)0018(CC)
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y portffolio cymunedau a phlant yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0005(CC)
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hynt y gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(5)0017(CC)
11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid Teuluoedd yn Gyntaf? OAQ(5)0007(CC)[W]
12. Pa flaenoriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar bolisïau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal? OAQ(5)0003(CC)
13. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod tai yng Nghymru yn diwallu anghenion pobl anabl? OAQ(5)0009(CC)
14. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno taliadau gwasanaeth ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol? OAQ(5)0011(CC)
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i gynnig teitlau a chylch gwaith pwyllgorau. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.
Yr eitem nesaf yw eitem 4, sef y cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor. Rwy’n galw eto ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Paul Davies a gwelliant 4 yn enw Caroline Jones.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl yn enw UKIP—y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd. Cyn imi ddechrau’r ddadl hon, hoffwn atgoffa’r Aelodau am yr hyn a ddywedais yr wythnos...
Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch. Fe symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio. Rwy’n...
Rwy’n symud yn awr, felly, i’r ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn aros yn y Siambr ar gyfer y ddadl fer, os gwnewch chi adael yn dawel ac yn gyflym. Ac felly,...
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes rhwystrau statudol yn atal cyflwyno deddfwriaeth Gymreig i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia