Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 22 Mehefin 2016.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ar gyllid ar gyfer Hen Golwyn. Er mwyn datblygu hyn, mae angen i’r holl bartneriaid weithio gyda’i gilydd, felly rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd angen i chi ei ystyried hefyd. Rwy’n gwybod bod fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn dod â phawb at ei gilydd i ddod o hyd i ateb priodol. Felly, fel y dywedais, pe bai’r Aelod hefyd yn gallu cynorthwyo yn y modd hwnnw, byddai hynny’n ddefnyddiol iawn.